Ewch i’r prif gynnwys

Neges gan yr Is-Ganghellor - 17/04/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Annwyl fyfyriwr,

Gobeithio y cawsoch seibiant braf a diogel dros y Pasg a’ch bod wedi gallu canolbwyntio ar faterion heblaw am yr argyfwng presennol.

Rwyf yn ysgrifennu atoch i roi gwybod am sut ydym yn mynd ati i wneud yn siŵr na fydd pandemig Covid-19 yn peri anfantais i unrhyw fyfyriwr o ran eu cyflawniad academaidd, ac i roi gwybod am ein gwasanaeth cyfeirio at gwnsela rhithwir.

Ers y tro diwethaf imi ysgrifennu atoch, mae staff wedi bod yn gweithio’n galed ar ein polisi rhwyd ddiogelwch newydd ar gyfer 2019/20. Bydd y polisi hwn yn ymateb i’r tarfu a achosir gan bandemig COVID-19 (ers 16 Mawrth 2020) a, lle bo’n briodol, y tarfu a achoswyd gan y streicio (ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2019, a misoedd Chwefror a Mawrth 2020). Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch yn ategol i reoliadau academaidd 2019/20.

Diben y polisi yw gwneud yn siŵr bod marciau eich modiwlau am y flwyddyn hon, neu’r radd a ddyfernir a’ch dosbarth os ydych yn fyfyrwyr blwyddyn olaf, yn adlewyrchiad teg a chywir o’ch cyflawniad academaidd. Mae’n bwysig i’r Brifysgol wneud yn siŵr nad yw marciau eich modiwlau, a lle bo’n berthnasol, nad yw dosbarth eich gradd, yn cael eu heffeithio gan unrhyw ostyngiad posibl yn eich perfformiad academaidd mewn asesiadau yr ymgymerir â nhw yn ystod y cyfnod cythryblus presennol.

Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch hefyd yn cydnabod ei bod hi’n bwysig i chi bod safonau academaidd eich gradd yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol a bod eich gradd yn ddilys ac yn ddibynadwy, ac o safon gyfatebol i raddau a ddyfernir mewn blynyddoedd blaenorol. Mewn rhai achosion, rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr bod graddau a ddyfernir gan y Brifysgol yn bodloni gofynion y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol perthnasol.

Bydd eich Ysgol wedi rhoi gwybod i chi am newidiadau i’r dulliau addysgu ac asesu mewn ymateb i’r tarfu hyn, i sicrhau nad yw unrhyw fyfyriwr dan anfantais academaidd.

Ar ben hynny, ym mis Mawrth fe wnaethon ni gadarnhau nad oes angen i chi roi gwybod am amgylchiadau esgusodol ynghylch addysgu ac asesu o bell oherwydd COVID-19 a gallwch ohirio un neu ragor o asesiadau os yw eich amgylchiadau’n eich rhwystro rhag cael eich asesu.

Fel y gwyddoch, mae Byrddau Arholi yn ystyried ac yn cadarnhau marciau asesu gan ystyried amgylchiadau esgusodol. Maent yn rhoi ystod o gamau eraill a ganiateir ar waith i wneud yn siŵr bod y canlyniadau yn deg i fyfyrwyr ac yn cynnal safonau academaidd. Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch yn cynnig gwybodaeth bellach i egluro’r camau y bydd Byrddau Arholi yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod marciau’r modiwlau’n adlewyrchu’r safonau yr ydych wedi’u cyflawni, ynghyd â’r camau pellach i’w cymryd pan fyddwn yn pennu dosbarth i raddau.

Cyngor pellach ynghylch y polisi a beth mae’n ei olygu i chi.

Rwyf yn gwybod y bydd llawer ohonoch yn aros i gael gwybod beth yw amserlen eich arholiadau o bell. Byddwn yn rhannu’r rhain ddydd Mercher 22 Ebrill felly cadwch lygad am ebost yr wythnos nesaf.

Ers y tro diwethaf imi ysgrifennu atoch a rhannu adnoddau hunangymorth a baratowyd gan staff cwnsela a lles a’r ap Talk Campus, rydym yn gallu eich cyfeirio at ystod o gefnogaeth o bell erbyn hyn. Rhagor o wybodaeth am yr holl gefnogaeth sydd ar gael gennym ar hyn o bryd a sut i gael cymorth.

Rydym yn sylweddoli y gallech fod yn poeni ac yn fwy gorbryderus yn ystod cyfnod gwirioneddol ddigynsail.  Os ydych chi'n cael anawsterau fel hwyliau isel, gorbryder a theimladau eraill o ofid emosiynol, neu os ydych chi'n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall, cysylltwch â ni.

Cofiwch ddarllen ein gwybodaeth i fyfyrwyr cyfredol am y Coronafeirws (COVID-19).

Dymuniadau gorau i chi cyn i’r semester ddechrau eto ddydd Llun.

Cofion cynnes,

Colin Riordan

Is-Ganghellor