Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Llywodraethu

Rydym yn cydweithio'n drawsddisgyblaethol gyda'n cydweithwyr ym maes Gwyddorau Gwleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol ar faterion llywodraethu cyfansoddiadol aml-lefel, cynaliadwyedd amgylcheddol a chysylltiadau cyfreithiol rhyngwladol.

Mae ein cymuned o ymchwilwyr yn gwneud cyfraniadau beirniadol at faterion llywodraethu sy'n peri pryder dybryd – o Brexit a'i ganlyniadau ar gyfer dinasyddiaeth ac ar gyfer y cyfansoddiad tiriogaethol, materion amddiffynfeydd lloches a hawliau dynol, i ymatebion i weithgareddau fel ffracio a defnyddio nanodechnoleg.

Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys sefydliadau gwleidyddol fel Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, San Steffan a Whitehall, a'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Canolfannau ymchwil cysylltiedig