Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Ymgeiswyr mewnol yn unig

Gwahoddir ceisiadau am y rôl uwch arweinyddiaeth hon gan staff academaidd yn yr Ysgol. Mae croeso i geisiadau gan staff sydd wedi ymgymhwyso'n addas o gynrychiolaeth mor eang ac amrywiol â phosibl, ac o bob llwybr gyrfa academaidd.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl hon record academaidd ragorol mewn disgyblaeth berthnasol ac fe fyddant yn meddu ar alluoedd arweinyddiaeth a rheoli eithriadol ochr yn ochr â hanes o gyflawni strategol llwyddiannus. Bydd ganddynt yr awdurdod, presenoldeb ac arbenigedd personol i gynrychioli'r Ysgol ac i bob pwrpas ymhellach ei ddiddordebau cyffredinol.

Gan adrodd i'r Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg yr Athro Urfan Khaliq, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adeiladu ar sylfeini academaidd cryf ac yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu addysg ragorol a phrofiad myfyrwyr, yn meithrin ymchwil arweiniol sy'n bwysig yn fyd-eang, ac yn ysbrydoli diwylliant cynhwysol i fyfyrwyr a staff.

Rôl

Mae'r rôl yn llawn amser am hyd at 5 mlynedd (gyda'r posibilrwydd o dymor pellach o 3 blynedd), i ddechrau ar 01 Medi 2025 neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Mae'r rôl yn cario lwfans o £12,000 nad yw'n bensiynadwy.

Darllenwch y swydd ddigrifiad llawn ar gyfer Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Sut i wneud cais

Wrth wneud cais am y swydd, amgaewch CV byr (dim mwy na phum tudalen) ynghyd â llythyr eglurhaol o ddim mwy na 3 dudalen, yn cyd-fynd yn benodol â'r fanyleb person ac yn amlinellu'r canlynol:

* Eich gweledigaeth ar gyfer Ysgol y Gyfraeth a Gwleidyddiaeth yn y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ymdeimlad clir o flaenoriaethau/amcanion academaidd (a'u cyd-destunau sefydliadol a sectoraidd) a chynlluniau ar gyfer eu cyflawni;

* Sut y byddech chi'n meithrin perthnasoedd gweithio effeithiol yn yr Ysgol ac yn y Coleg, a sut y byddwch chi'n datblygu ac yn meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol yn yr Ysgol;

* Sut mae eich sgiliau, eich arbenigedd a'ch profiad, a'ch nodweddion personol, yn eich arfogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y rôl yng nghyd-destunau'r Ysgol a'r Coleg.

Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Sally-ann Efstathiou trwy anfon e-bost at Reolwr AD Rhian Perridge ar PerridgeR@cardiff.ac.uk erbyn 17.00 ar Ddydd Mercher 07 Mai 2025.

Proses recriwtio a dyddiadau allweddol

Cyfnod ymgeisio yn agorDydd Iau 17 Ebrill 2025
Cyfnod ymgeisio yn cauDydd Mercher 07 Mai 2025
Grŵpiau RhanddeiliaidDydd Iau 22 Mai 2025
Cyflwyniadau i'r YsgolDydd Iau 22 Mai 2025
Cyfweliadau panelDydd Llun 02 Mehefin 2025

Os hoffech drefnu sgwrs gyfrinachol am y rôl gyda'r Athro Damian Walford Davies, cysylltwch ag Emma Fisher i drefnu apwyntiad (DVC-PA@cardiff.ac.uk).