Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie 2022
Ein nod yw denu ymchwilwyr sydd â photensial eithriadol i weithio gyda ni ar brosiectau ymchwil arloesol a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol a sylweddol.
Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais i gynllun Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie, gyda Phrifysgol Caerdydd yn sefydliad sy’n derbyn. Mae Cymrodoriaethau Ôl-ddoeuthurol Marie Skłodowska-Curie’n cael eu cyllido gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Gallwn gynnig cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr sy’n mynd drwy’r broses ddethol fewnol yn llwyddiannus ac sy’n cyflwyno eu datganiad o ddiddordeb mewn pryd (12 Mehefin 2022), yn ogystal â pharchu’r terfynau amser mewnol canlynol (i’w cyfleu i ymgeiswyr maes o law).
Bod yn gymwys
Rhaid i ymchwilwyr fod â doethuriaeth ar ddyddiad cau’r alwad. Ar ddyddiad cau’r alwad, rhaid i ymchwilwyr hefyd fod ag uchafswm o wyth mlynedd o brofiad cyfatebol amser llawn o faes ymchwil, i’w fesur o ddyddiad dyfarnu’r ddoethuriaeth i’r ymchwilydd ac i’w gadarnhau drwy gyflwyno dogfennau priodol.
Rhaid i ymchwilwyr gydymffurfio â'r rheol symudedd ganlynol: rhaid iddynt beidio â bod wedi byw na chyflawni eu prif weithgaredd (gwaith, astudiaethau ac ati) yng ngwlad y buddiolwr (ar gyfer Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Ewropeaidd) neu’r sefydliad sy’n derbyn ar gyfer symudedd allanol (ar gyfer Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Byd-eang) am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn dyddiad cau’r alwad.
Gall yr ymchwilwyr fod o unrhyw genedligrwydd. Fodd bynnag, rhaid i ymchwilwyr sy'n mynd i drydedd wlad (yn rhan o Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Fyd-eang) fod yn wladolion un o Aelod-wladwriaethau’r EU neu wlad sy’n gysylltiedig â Horizon Europe neu fod yn preswylio’n hirdymor yn un o’r aelod-wladwriaethau neu’r gwledydd hyn. Mae preswylio’n hirdymor yn golygu preswylio’n gyfreithiol ac yn barhaus yn un o Aelod-wladwriaethau'r UE neu wlad sy’n gysylltiedig â Horizon Europe am o leiaf bum mlynedd yn olynol.
Cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb
Mae cynllun Mynegi Diddordeb ar gyfer galwad 2022 bellach wedi cau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â msca@caerdydd.ac.uk.
Cymerwch y camau canlynol:
- Edrychwch ar y meini prawf uchod i gadarnhau eich bod yn gymwys. Ebostiwch msca@caerdydd.ac.uk cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys.
- Darllenwch y canllawiau ar y gymrodoriaeth (bydd y rhain ar gael yn fuan).
- Lawrlwythwch a llenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb a’i ebostio at msca@caerdydd.ac.uk erbyn 12 Mehefin 2022.
Bydd eich cais yn cael ei anfon at yr Ysgol Academaidd/Sefydliad Ymchwil o’ch dewis i’w adolygu. Bydd yr Ysgol Academaidd/Sefydliad Ymchwil yn cadarnhau a yw’n cefnogi eich cynnig neu beidio.
Dylech fynd i dudalennau’r Ysgol Academaidd ar wefan y Brifysgol a dewis goruchwyliwr addas i’w gynnwys yn eich cais.
Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’r goruchwyliwr y maent wedi’i enwebu i sicrhau ei gefnogaeth cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Bydd yr Ysgol Academaidd yn gwrthod ceisiadau nad oes cefnogaeth goruchwyliwr iddynt yn awtomatig.
Bydd rhywun yn cysylltu â chi os bydd Ysgol Academaidd wedi eich derbyn. Gellwch ddisgwyl ateb erbyn dechrau mis Gorffennaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y canllawiau’n ofalus ac yn deall gofynion y cynllun. Ni fydd datganiadau o ddiddordeb anghyflawn neu sy’n dangos nad yw’r ymgeisydd wedi deall canllawiau’r cynllun yn amlwg yn cael eu hanfon i’r ysgolion, ac ni fydd yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu.