Prifysgol Wyoming
Ar 25 Ebrill 2023, llofnododd Prifysgol Caerdydd Gytundeb Partneriaeth Strategol newydd gyda Phrifysgol Wyoming.
Gan adeiladu ar hanes cyfoethog o gydweithio, bydd y bartneriaeth hon yn galluogi prosiectau ymchwil cydweithredol, cyfres flynyddol o seminarau, cynadleddau a gweithdai, symudedd staff a myfyrwyr PhD a rhaglenni addysg gydweithredol.
Wrth siarad am y bartneriaeth newydd, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Cyn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Yn sail i bob un o’n partneriaethau rhyngwladol mae’r uchelgais i fynd i’r afael â materion o bwys rhyngwladol tra ar yr un pryd yn sicrhau manteision i’r gymdeithas a’r economi yma yng Nghymru.
“Ein partneriaeth â Wyoming yw ein hymrwymiad diweddaraf i’r genhadaeth ddinesig hon ac felly rwyf yn edrych ymlaen at weld y manteision yn cynyddu wrth i gymunedau yn y ddwy brifysgol gydweithio yn ystod y blynyddoedd i ddod.”
Prifysgol Wyoming
Sefydlwyd Prifysgol Wyoming ym 1886. Mae’n sefydliad ymchwil grant tir a gydnabyddir yn genedlaethol ac mae academyddion arbenigol o’r radd flaenaf yn gweithio yno mewn cyfleusterau o safon fyd-eang.
Mae ganddi 12,000 o fyfyrwyr sy’n hanu o bob un o 50 talaith UDA ac 82 o wledydd ledled y byd.
Cronfa Symudedd Prifysgol Wyoming
Trwy’r bartneriaeth strategol, sefydlwyd cronfa gydweithredu bwrpasol, wedi’i chynllunio i gefnogi staff a myfyrwyr i ymgysylltu’n fwy gweithredol â Phrifysgol Wyoming ar draws meysydd cyffredin o ymchwil, addysgu ac addysg.
Rhagor o wybodaeth am y gronfa gydweithredu, a sut i wneud cais.
Cysylltwch â ni
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â’r bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Wyoming, cysylltwch â:
Pennaeth Partneriaethau Rhyngwladol
Anne Morgan