Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Xiamen

Prif Adeiladau, Prifysgol Xiamen
Prifysgol Xiamen

Prifysgol Xiamen oedd Partner Strategol cyntaf Prifysgol Caerdydd a hi yw partner Sefydliad Confucius Caerdydd. Llofnodwyd y Bartneriaeth Strategol â Xiamen am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2016.

Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina pan greodd bartneriaeth â Phrifysgol Xiamen fwy na 30 mlynedd yn ôl.

Mae'r bartneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen a'i dinas yn ymestyn ein perthynas hirsefydlog a'n cysylltiadau presennol ar draws gwahanol feysydd o ddiddordeb i'r ddwy brifysgol, gan gynnig cyfleoedd i staff a myfyrwyr fel ei gilydd gydweithio ac elwa ar symudedd.

Croesewir cydweithio mewn partneriaeth ym mhob maes pwnc; darllenwch ragor i weld sut y gallwch chi gymryd rhan.

calendar

1983

Dinasoedd Caerdydd a Xiamen yn gefeillio

calendar

2008

Institute Confucius yn cael ei lansio'n ffurfiol yng Nghaerdydd

calendar

2022

Y Bartneriaeth Strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a XMU yn cael ei hadnewyddu

Ers amser maith mae XMU, a sefydlwyd ym 1921, wedi bod ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw Tsieina ac yn rhan o Brosiectau Cenedlaethol 211 a 985 yn ogystal â Chynllun y Dosbarth Cyntaf Dwbl.

Enwyd XMU yn Brifysgol Dosbarth Cyntaf Dwbl a chefnogir 6 maes pwnc yn unol â chynllun Disgyblaethau o Safon Fyd-eang drwy Weinyddiaeth Addysg Tsieina: Cemeg, Gwyddoniaeth Forol, Bioleg, Ecoleg, Ystadegau ac Addysgeg.

Yn XMU mae ysgol i raddedigion, chwe is-adran academaidd sy'n cynnwys 33 o ysgolion a cholegau, ac 16 o sefydliadau ymchwil, yn ogystal â 44,000 o fyfyrwyr amser llawn a mwy na 20,000 o israddedigion, 18,000 o fyfyrwyr graddedig gradd meistr a 5,000 o ymgeiswyr doethurol.

Ar hyn o bryd mae gan XMU staff, sef mwy na 3,000 o athrawon ac ymchwilwyr amser llawn ac mae 32 o’r rhain yn aelodau o Academi Gwyddorau Tsieina neu Academi Peirianneg Tsieina.

Mae gan XMU ddau gampws: Xiamen a Maleisia.

Prifysgol Xiamen Malaysia (XMUM), a sefydlwyd yn 2014, yw'r campws tramor cyntaf a sefydlwyd gan un o brifysgolion enwocaf Tsieina a’r campws cangen cyntaf gan brifysgol o Tsieina ym Maleisia. Bellach mae mwy na 6,000 o fyfyrwyr o 33 o wledydd a rhanbarthau wedi ymrestru yn XMUM, a gafodd ei charfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Chwefror 2016.

Lansiwyd Sefydliad Confucius Caerdydd yn ffurfiol yn 2008. Dyma bartneriaeth rhwng Prifysgol Xiamen a Phrifysgol Caerdydd.

Diben Sefydliad Confucius Caerdydd yw rhoi addysg iaith o safon a chryfhau cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen er budd y ddwy gymuned ac, yn ehangach, y ddwy genedl.

Dewch i wybod rhagor am Sefydliad Confucius Caerdydd.

Gefeilliwyd dinasoedd Caerdydd a Xiamen ers 1983 ac mae cysylltiadau cyson o hyd rhwng y ddwy ddinas.

Dinas arfordirol yw Xiamen yn nhalaith Fujian yn Tsieina.

Ar 12 Hydref 2023 roedd 40 mlynedd wedi mynd heibio ers y gefeillio rhwng Caerdydd a Xiamen.

Sefydlir dinasoedd gefeillio i hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a masnachol rhwng dinasoedd mewn gwledydd gwahanol ac ym 1983, Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina. Ers hynny, bu llawer o gysylltiadau gefeillio eraill â dinasoedd yn Tsieina ar draws y DU gan ddilyn yr un patrwm.

Ers y 1980au, mae creu partneriaethau gefeillio â dinasoedd yn Tsieina wedi bod yn ffordd o ddatblygu cysylltiadau economaidd yn bennaf. Fodd bynnag, i Gaerdydd a Xiamen, rhoddwyd cryn bwysigrwydd a gwerth bob amser ar brosiectau addysgol a diwylliannol ar y cyd.

Mae sefydlu Sefydliad Confucius Caerdydd yn 2008 yn un enghraifft o natur ddeinamig y ddwy ddinas a efeilliwyd ac o'r bartneriaeth gryf rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen. Mae llawer o fyfyrwyr a chymunedau lleol wedi elwa ar y rhaglenni cyfnewid diwylliannol ac addysgol, yn ogystal â’r cyfleoedd i ddysgu iaith a diwylliant Tsieina yn y Sefydliad.

Mae partneriaethau rhwng Ysgol Ieithoedd Tramor Xiamen a Choleg Caerdydd a'r Fro; Ysgol Gerdd Xiamen a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn enghreifftiau eraill o'r natur ddeinamig hon.

"Rydym yn rhannu uchelgais rhygwladol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau newydd ac arloesol fydd yn gallu cynnig manteision i Gymru a Tsieina.”

Arlywydd Zhu Prifysgol Xiamen

Sut i gymryd rhan

Yn rhan o'n partneriaeth strategol, ceir nifer o gyfleoedd i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gydweithio â Phrifysgol Xiamen / Prifysgol Xiamen Maleisia (XMU / XMUM).

Mae Cronfa Symudedd Allanol Xiamen yn croesawu ceisiadau gan staff academaidd, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, myfyrwyr PhD, staff technegol a staff Prifysgol Caerdydd yn y gwasanaethau proffesiynol. Bwriad y gronfa yw meithrin cysylltiadau rhwng y ddwy brifysgol ac ysgogi cyfnewid staff a myfyrwyr a fydd yn arwain at ddatblygu meysydd ymchwil, arloesi a chynlluniau addysgol newydd ar y cyd. Bellach, bydd y gronfa yn talu am ymweliadau â naill ai Prifysgol Xiamen, Tsieina, neu Brifysgol Xiamen ym Malaysia.

Mae ysgoloriaethau hefyd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymweld â Phrifysgol Xiamen drwy Sefydliad Confucius Caerdydd.

Ysgoloriaethau Prifysgol Xiamen

Dysgwch fwy am wahanol ysgoloriaethau Prifysgol Xiamen i ddysgu Tsieinëeg yn Tsieina.

Effaith y Bartneriaeth

Dewch i wybod sut mae ein partneriaeth wedi creu prosiectau rhyngwladol ar y cyd i’r staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd:

O'r ystafell ddosbarth i Tsieina: taith athrawon i Xiamen a Beijing

Bu’r Uned DPP yn cydweithio â Dr Saloomeh Tabari, Cyfarwyddwr y Rhaglen MBA Ysgol Busnes Caerdydd, i ddatblygu a chynnal Ysgol Haf Weithredol unigryw ar gyfer myfyrwyr MBA Prifysgol Xiamen.

Trip cyfranogwyr i ymweld â Mur Mawr Tsieina y tu allan i Beijing.

O'r ystafell ddosbarth i Tsieina: taith athrawon i Xiamen a Beijing

Profiad diwylliannol a dysgu athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd y DU yn Tsieina.

Seremoni arwyddo Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen

Cyflwyno Cymru i'r Byd

Prifysgol Caerdydd yn hybu cydweithio rhyngwladol drwy bartneriaeth strategol gyda Tsieina

Benjamin Miller (BA Tsieinëeg) yn sefyll o flaen adeilad Prifysgol Xiamen

Ymgolli yn yr iaith a’r diwylliant trwy'r Ysgoloriaeth Ryngwladol yn Tsiena

Blwyddyn o brofiad myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Benjamin Miller, yn Tsieina gydag ysgoloriaeth gan Brifysgol Xiamen

I ddathlu'r bartneriaeth newydd â Phrifysgol Xiamen, cynhaliodd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd a Grŵp Celfyddydau Prifysgol Xiamen gyngerdd yn Theatr Reardon Smith, Caerdydd, ar 17 Tachwedd 2016. Yn y digwyddiad 'Cipolwg ar Tsieina' cyflwynodd grŵp Celfyddydau Prifysgol Xiamen ddawns draddodiadol o Tsieina, gan gynnwys dawns filwrol, canu a cherddoriaeth offerynnol. Agorodd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd y gyngerdd gan berfformio caneuon a gyfansoddwyd gan Hubert Parry.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi wybod rhagor am ein gweithgareddau rhyngwladol neu am greu partneriaeth â ni, cysylltwch â thîm y Partneriaethau Rhyngwladol.

Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol

Sophie Lewis