Ewch i’r prif gynnwys

Datgloi ein treftadaeth: Prosiect rhyngwladol gyda sefydliadau diwylliannol yn datgelu darluniau llyfrau cudd

24 Ionawr 2022

The Illustration Archive: https://illustrationarchive.cardiff.ac.uk

Arbenigwyr ar y dyniaethau digidol yng Nghaerdydd yn cydweithio mewn partneriaeth gyffrous rhwng y DU a'r Unol Daleithiau

Bydd prosiect digidol arloesol yn helpu i agor archifau sefydliadau diwylliannol mawr yn yr Unol Daleithiau a'r DU diolch i bartneriaeth a sefydlwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wyoming a phartneriaid rhyngwladol.

Gan ddefnyddio offer golwg cyfrifiadurol arloesol i ddadansoddi darluniau hanesyddol o bobl a llefydd mewn llyfrau, bydd Finding a place: advancing digital methods to unlock the use of digitised book illustrations in cultural institutions yn canfod patrymau gweledol ar draws darluniau o adeiladau, tirweddau a phobl i ddatgelu byd angof o ddelweddau.

Drwy harneisio casgliadau digidol, bydd y prosiect newydd yn datgloi pŵer ein harchifau i greu'r math o ddadansoddiad cymharol oedd cyn hyn yn amhosibl ar ffurf faterol mewn llyfr.

Mae'r prosiect yn un o ddeuddeg yng nghynllun diweddaraf NEH AHRC Cyfeiriadau Newydd ar gyfer Ysgolheictod Digidol mewn Sefydliadau Diwylliannol.

Mae'r prosiect yn gydweithrediad deinamig rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Wyoming, a sefydliadau diwylliannol o ddwy ochr Môr yr Iwerydd: Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd, Llyfrgell Palas Lambeth, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Treftadaeth America, a Chanolfan Buffalo Bill y Gorllewin.

Arweinydd y prosiect yn y DU yw'r Athro Llenyddiaeth Saesneg Julia Thomas, a greodd archifau darluniau digidol arloesol, y Database of Mid-Victorian Illustration a The Illustration Archive, a bydd yn cydweithio gyda'r Athro Omer Rana a'r Athro Paul Rosin o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Mae'r Athro Thomas yn esbonio arwyddocâd y prosiect:

"Ein nod yw pwysleisio pwysigrwydd darluniau hanesyddol i sefydliadau diwylliannol drwy ddefnyddio dulliau digidol i archwilio'r delweddau mewn ffyrdd newydd. Am y tro cyntaf, byddwn yn gallu nodi newidiadau mewn cannoedd o filoedd o ddarluniau o bobl, adeiladau a thirweddau, ac olrhain cysylltiadau a gwahaniaethau rhyngddynt, rhywbeth sy’n amhosibl yn eu ffurf faterol wreiddiol."

Ynghudd rhwng cloriau llyfrau ceir cofnod gweledol rhyfeddol o'r byd a'i drigolion. O Gymru i Wyoming, mae'r darluniau yn y gwrthrychau materol hyn yn adrodd straeon am syniadau a chredoau eu crewyr a'u darllenwyr ar draws gofod ac amser. Mae'r delweddau hyn wedi cyfrannu at ein golwg ar y byd. Maent yn rhannu ystyron ar gyfer ein hamgylcheddau naturiol ac adeiledig. Maent wedi helpu i lunio a darlunio ein canfyddiadau o'r hyn sy'n lleol, yn estron, yn gynhenid, wedi'i ddadleoli ac wedi'i wladychu. Yn eu tro, mae eu gwarcheidwaid - ein sefydliadau diwylliannol - wedi eu diffinio eu hunain yn ôl y syniadau hyn o le wrth greu casgliadau a naratifau.

Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd mewn casgliadau digidol, anaml y caiff darluniau llyfrau eu dadansoddi mewn sefydliadau diwylliannol. Nod y prosiect yw manteisio ar y cyfandir enfawr hwn o arteffactau gweledol, gan wneud yn iawn am eu hesgeuluso ac ail-gydbwyso ymwybyddiaeth o ddarluniau fel gwrthrychau unigryw o dreftadaeth ddiwylliannol yn eu rhinwedd eu hunain. Bydd golwg cyfrifiadurol yn ei gwneud yn bosibl i astudio'r delweddau hyn ar raddfa am nodweddion a phatrymau, gan ganiatáu ar gyfer dealltwriaeth o debygrwydd a gwahaniaeth, fydd yn helpu i fapio stereoteipiau gweledol ac yn y pen draw herio portreadau confensiynol a datgelu hanesion cudd llefydd a'r bobl sy'n gysylltiedig â nhw.

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Yn ddiweddar, rydym ni wedi dechrau meithrin cysylltiadau cryf rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wyoming, yn bennaf mewn meysydd STEM i ddechrau. Mae'n wych gweld y cydweithio amlddisgyblaethol hwn yn cyrraedd y dyniaethau. Mae'n dwyn ynghyd ddau grŵp cryf mewn Llenyddiaeth Saesneg a Chyfrifiadureg gyda phartneriaid ar draws Môr yr Iwerydd. Bydd hyn nid yn unig yn cynnig cyfleoedd cyffrous mewn astudiaethau darlunio a'r dyniaethau digidol ond hefyd yn ein helpu i ddatblygu ein partneriaeth â Wyoming ymhellach."

Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau:

“Mae'r cydweithrediad hwn yn cysylltu sefydliadau blaenllaw yn yr Unol Daleithiau a'r DU i arloesi gyda dulliau ymchwil newydd, ac arwain ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf yn y dyniaethau digidol. Bydd y prosiectau hyn yn agor treftadaeth a diwylliant mewn ffyrdd newydd a fydd o fudd i ymchwilwyr a'r cyhoedd ac yn dod â chyfoeth o gasgliadau diddorol i'r 21ain ganrif mewn ffyrdd mwy hygyrch fyth.”

Rhannu’r stori hon