Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth strategol gyntaf gydag un o brifysgolion UDA

25 Ebrill 2023

Mae dau ddyn sy’n gwisgo siwtiau yn eistedd wrth fwrdd â lliain arno sy’n dwyn logo Prifysgol Caerdydd
Mae’r Is-ganghellor yr Athro Colin Riordan (ar y chwith) a’r Llywydd Ed Seidel (ar y dde) yn dathlu dechrau partneriaeth ymchwil ac addysg pum mlynedd fydd yn creu manteision cymdeithasol ac economaidd i Gymru a’r Unol Daleithiau mewn digwyddiad yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd

Bydd cyd-fentrau ymchwil ac addysg yn cael eu datblygu rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wyoming yn yr Unol Daleithiau yn rhan o bartneriaeth strategol newydd.

Bydd prosiectau ymchwil ar y cyd, cyfres flynyddol o seminarau, cynadleddau a gweithdai, ymweliadau gan staff a myfyrwyr PhD a rhaglenni addysg ar y cyd oll yn rhan o’r bartneriaeth pum mlynedd a lofnodwyd mewn digwyddiad yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Y cytundeb gyda Phrifysgol Wyoming yw partneriaeth gyntaf Caerdydd â sefydliad addysg uwch yn yr Unol Daleithiau ac mae'n dilyn trefniadau tebyg gyda phrifysgolion yn Tsieina, Brasil, yr Almaen, Gwlad Belg, Affrica ac, yn fwyaf diweddar felly, Seland Newydd, a hynny’n rhan o'i strategaeth gyffredinol Y Ffordd Ymlaen.

Mae dyn yn gwisgo crys du a sbectol yn sefyll o flaen piano gyda'i ddwylo yn yr awyr. Y tu ôl iddo mae logos Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wyoming wedi'u goleuo ar daflunydd.
Bu’r Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, yn diddanu cydweithwyr a chynadleddwyr o Brifysgol Wyoming gyda detholiad o ddarnau gan Bach, Liszt, Gounod, Wagner a Chopin mewn digwyddiad i nodi lansiad partneriaeth strategol newydd rhwng y ddau sefydliad yn neuadd gyngerdd y Brifysgol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Yn sail i bob un o’n partneriaethau rhyngwladol mae’r uchelgais i fynd i’r afael â materion o bwys rhyngwladol tra ar yr un pryd yn sicrhau manteision i’r gymdeithas a’r economi yma yng Nghymru.

"Ein partneriaeth â Wyoming yw ein hymrwymiad diweddaraf i’r genhadaeth ddinesig hon ac felly rwyf yn edrych ymlaen at weld y manteision yn cynyddu wrth i gymunedau yn y ddwy brifysgol gydweithio yn ystod y blynyddoedd i ddod."

Sefydlwyd Prifysgol Wyoming ym 1886. Mae'n sefydliad ymchwil grant tir a gydnabyddir yn genedlaethol ac mae academyddion arbenigol o'r radd flaenaf yn gweithio yno mewn cyfleusterau o safon fyd-eang.

Mae ganddi 12,000 o fyfyrwyr sy’n hanu o bob un o 50 talaith UDA ac 82 o wledydd ledled y byd.

Dynion a menywod mewn tair rhes ar lwyfan yn neuadd gyngerdd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Y tu ôl iddynt mae baneri Cymru ac Unol Daleithiau America. Mae logos Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wyoming wedi'u goleuo ar daflunydd.
Bydd y bartneriaeth strategol newydd rhwng Cymru a Wyoming yn datblygu’r cysylltiadau ymchwil sy’n bodoli ym maes cyfrifiadureg a’r celfyddydau a’r dyniaethau.

Dyma a ddywedodd Ed Seidel, Llywydd Prifysgol Wyoming: "Mae’r bartneriaeth strategol hon yn dathlu ymrwymiad sylweddol i feithrin cydweithio ystyrlon ar draws y disgyblaethau."

Rydym yn rhagweld prosiectau sy’n ehangu cwmpas ac effaith ein hymchwil, gan greu cyfleoedd newydd i gyfnewid myfyrwyr a staff a meithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Wyoming a fydd o fudd i’n prifysgolion a’n cymunedau ehangach.

Ed Seidel Llywydd Prifysgol Wyoming

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd a phartneriaethau strategol gyda Phrifysgol Xiamen ac Unicamp.