Ewch i’r prif gynnwys

Phrifysgol Illinois

University of Illinois System

Ar 23 Mehefin 2023, llofnododd Prifysgol Caerdydd Gytundeb Partneriaeth Strategol newydd gyda System Prifysgol Illinois (UI).

Bydd y cytundeb yn sail i raglen waith sy’n esblygu ac i deithiau cyfnewid ar gyfer myfyrwyr, hyn rhwng Prifysgol Caerdydd a System Prifysgol Illinois - un o'r sefydliadau gorau yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r ddau sefydliad wedi meithrin cysylltiadau agos â Discovery Partners Institute (DPI), sef sefydliad ymchwil ryngddisgyblaethol preifat-gyhoeddus UI sydd wrth galon Rhwydwaith Arloesi Illinois (Illinois Innovation Network) yng nghanol Dinas Chicago. Ymunodd Caerdydd â'r DPI yn 2018 yn Bartner Rhyngwladol cyntaf iddo.

Nod y bartneriaeth strategol yw cryfhau ymchwil ar y cyd mewn meysydd allweddol: systemau ynni ac allyriadau Net-sero, seiberddiogelwch, gwyddorau data a deallusrwydd artiffisial, ymchwil ar ganser, geowyddorau, entrepreneuriaeth ac arloesi, ymchwil ar ddŵr ac ymchwil ynghylch y paith yn ogystal â newyddiaduraeth.

Wrth siarad am y bartneriaeth newydd, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Cyn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'r bartneriaeth wrth wraidd ein huchelgais i fod yn arwain ledled y byd yn y meysydd hyn, gan fynd i'r afael â materion o bwys byd-eang sydd wedi'u nodi yn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r cydweithio’n rhoi cyfleoedd gwych i wneud ceisiadau am gyllid rhyngwladol ar y cyd drwy bartneriaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU â'r Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol (NSF) a gwaith Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn y DU ag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau.”

Dyma a ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor, Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr y DU a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Mae creu partneriaeth â Phrifysgol Illinois yn creu cyfleoedd gwych i bob myfyriwr ac ymchwilydd gymryd rhan mewn profiadau rhyngwladol sy’n cael effaith. Mae'n cefnogi ein hymrwymiad i roi 'cyfleoedd byd-eang' i’n myfyrwyr, gan eu galluogi i astudio mewn lleoliad rhyngwladol neu gael profiad rhyngwladol yn ystod eu hastudiaethau. Bydd cydweithio â Phrifysgol Illinois yn ein galluogi i ehangu cyrhaeddiad ein hymchwil, yn enwedig drwy gyfrwng ein Campws Arloesi.”

Prifysgol Illinois

Bydd UI yn ymddangos yn gyson yn nhablau cynghrair prifysgolion gorau'r byd. Cyrhaeddodd campws Urbana Champaign safle 85 yn QS 2023, a safle 48 yn Times Higher Education 2023 ar adeg llofnodi.

Ym Mhrifysgol Illinois mae 94,000 o fyfyrwyr ar dri champws: Chicago, Springfield ac Urbana Champaign. Prifysgol Illinois yw darparwr mwyaf system addysg uwch y dalaith, ac mae gan Brifysgol Illinois ei hysbyty, ei chlinigau, ei maes awyr, ei chyfleusterau ymchwil a’i swyddfeydd ychwanegol ei hun.

Wrth arwyddo'r bartneriaeth, dywedodd Llywydd UI, yr Athro Tim Killeen, sy'n hanu o Gaerdydd yn wreiddiol: “Rwy'n falch iawn o allu llofnodi'r cytundeb hwn yn fy ninas enedigol. Pan gefais i fy magu yn y Rhath, roedd addysg yn hollbwysig wrth greu cyfleoedd a newidiodd llu o fywydau. Nod y bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd yw creu cyfleoedd tebyg sy'n diffinio gyrfaoedd ac yn gallu trawsnewid bywydau. Bydd yn caniatáu i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff yn y ddau sefydliad gydweithio'n agos ar draws meysydd cyd-arbenigedd: boed yn beirianneg a'r gwyddorau ffisegol neu’n ofal iechyd, newyddiaduraeth a gwyddorau’r amgylchedd.”

Cronfa Symudeddau Prifysgol Illinois

Trwy'r bartneriaeth strategol, sefydlwyd dau fath o gyllid i gefnogi datblygiad y Bartneriaeth Strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a System Prifysgol Illinois, ar draws meysydd ymchwil, addysgu ac addysg cyffredin.

Mae dwy gronfa ar gael y gall staff wneud cais amdanynt:

  1. Grant Sbarduno Ymchwil ac Arloesi ar y Cyd
  2. Grant Teithio

Gellir cyflwyno cynigion ar gyfer y Grant Hadau ar y Cyd drwy'r system ymgeisio ar-lein.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â'r bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Illinois, cysylltwch â:

Pennaeth Partneriaethau Rhyngwladol

Anne Morgan