Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau arbenigol helaeth yn allweddol o ran datblygiad ein cymuned cadwraeth, glos.

Ochr yn ochr â darlithfeydd a labordai addysgu pwrpasol wedi'u lleoli'n ganolog dros ddau lawr ein hadeilad cartref, mae’r cyfarpar a’r offer sydd yn ein hystafelloedd archaeoleg a chadwraeth yn galluogi i addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf gael eu gwireddu.

Labordy osteoleg

Labordy Osteoleg

Labordy biomoleciwlaidd

Labordy Biomoleciwlaidd

Labordai cadwraeth

Labordai Cadwraeth

Offer arbenigol

Mae’r offer arbenigol yn amrywio o gyfleusterau ar gyfer microsgopeg, efelychu hinsoddol a dadansoddi deunyddiau ac mae'n cynnwys ein Microsgop Sganio Electronau.

Microsgopeg ac efelychu hinsoddol

Microsgopeg ac Efelychu Hinsoddol

Microsgop Sganio Electronau

Microsgop Sganio Electronau

Stiwdios

Mae ein hystafelloedd stiwdio ffotograffig a darlunio yn cynnig mannau i gofnodi, dogfennu ac archwilio darganfyddiadau ac arteffactau ymhellach. Mae hyn yn ein galluogi i rannu ein darganfyddiadau, gweithgareddau ac ymchwil diweddaraf i’w llawn botensial.

Stiwdio ffotograffiaeth

Stiwdio Ffotograffiaeth

Stiwdio darlunio

Darlun

Buddsoddi

Ers dathlu ein canmlwyddiant ym maes archaeoleg yn 2020, mae ein cyfres o gyfleusterau wedi cael hwb pellach gyda buddsoddiad o £750,000 mewn adnoddau.