Ewch i’r prif gynnwys

Optimeiddio darparu a threfnu gwasanaethau

Mae ein thema ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ffyrdd cyfredol a ffyrdd sy'n ymddangos o’r newydd o drefnu a chyflenwi gofal, ac ar ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella profiadau pobl sy'n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau.

Mae ein thema ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ffyrdd cyfredol a ffyrdd sy'n ymddangos o’r newydd o drefnu a chyflenwi gofal, ac ar ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella profiadau pobl sy'n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau.

Mae cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu galw na welwyd ei debyg, ac mae angen brys am dystiolaeth o ffyrdd newydd o drefnu a gweithio i ymateb i heriau iechyd a gofal cymdeithasol cynyddol gymhleth.

Mae ein portffolio ymchwil ar hyn o bryd yn ymdrin â'r canlynol:

  • Datblygiadau arloesol yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac effaith y rhain ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr
  • Modelau newydd o ddarparu gofal ac ymagweddau newydd at ymarfer
  • Gwell systemau diogelwch i gleifion
  • Profiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr

Mae ein prosiectau'n cynnwys cydweithio rhyngddisgyblaethol gydag ymarferwyr ac ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Prifysgol Caerdydd ac o Brifysgolion sy'n rhagorol yn rhyngwladol yn y DU ac yn fyd-eang. Mae gan aelodau o'r thema hon gefndiroedd mewn ymarfer gofal iechyd proffesiynol, gan dynnu ar amrywiaeth eang o ymagweddau ansoddol, meintiol a dulliau cymysg, ac yn cael eu llywio gan ddamcaniaethau a syniadau o feysydd iechyd, rheolaeth a'r gwyddorau cymdeithasol. Fel ymchwilwyr rydym ni'n ymrwymo i ymgysylltu ystyrlon gyda'r holl grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn ogystal â'r rheini sy'n arwain, rheoli a darparu gofal wyneb yn wyneb.

Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r thema ymchwil hon hefyd yn ymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac mae aelodau'n ymrwymo i adeiladu capasiti a gallu ar draws ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Croesawir ceisiadau PhD ar amrywiaeth o bynciau. Dylai ceisiadau ymdrin yn uniongyrchol â phwnc ymchwil a ddynodir gan oruchwylwyr y thema. Nodir y pynciau ar broffiliau gwe'r goruchwylwyr. Mae ceisiadau nad ydynt yn ymdrin â dewis bwnc y goruchwyliwr ar gyfer goruchwylio yn annhebygol o fod yn llwyddiannus.

Arweinwyr y Thema Ymchwil

Dr Nicola Evans

Dr Nicola Evans

Darllennydd: Iechyd Meddwl , Anableddau Dysgu a Gofal Seicogymdeithasol

Email
evansng@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 206 87298

Prosiectau ymchwil presennol

End of life care for people with severe mental illness (the MENLOC study)

This project is synthesising research and other evidence relating to end of life care for people with severe mental illness.

Freedom to speak up

Evaluating 'Freedom to Speak Up Local Guardians'

Understanding an innovative role in NHS England intended to support staff to speak-up.

Doctor holding child hand

Paediatric early warning system utilisation and mortality avoidance

A system-wide approach to early warning in paediatrics - utilisation and mortality avoidance