Themâu
Mae ein ymchwil wedi'i strwythuro ar draws pedair thema:
Mae ein thema ymchwil yn canolbwyntio ar gefnogi gofal unigolyddol i bobl ag anghenion iechyd o feichiogrwydd i reoli cleifion a'u teuluoedd y mae salwch tymor hir a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd wedi effeithio arnynt.
Gyda’r nifer o bobl â chyflyrau tymor hir yn tyfu wrth i'r boblogaeth heneiddio, mae pwysigrwydd datblygu a gwerthuso ymyriadau a gwasanaethau cost effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i leihau'r effaith ar fywyd a gwella ansawdd bywyd i bob oed, yn hanfodol.
Portffolio ymchwil
Mae ein portffolio ymchwil ar hyn o bryd yn ymdrin â'r canlynol:
- deall y ffactorau risg ymddygiadol/ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â chyflyrau tymor hir ac sy'n cyfyngu ar fywyd a chefnogi pobl i hunan-reoli'r cyflyrau hynny
- profi ymyriadau i gyfyngu'r effaith ar bobl sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir gan gynnwys canser, dementia, cyflyrau croen a chymalau llidiol
- gwerthuso darpariaeth gofal ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf yn y gymuned a'r ysbyty i bobl sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd
- archwilio dulliau newydd o gefnogi menywod a theuluoedd yn ystod beichiogrwydd a geni plant.
Arbenigedd a chydweithio
Yng nghyd-destun ymchwil y byd real mae gennym aelodau gydag arbenigedd mewn methodoleg ansoddol, feintiol a chymysg. Mae gan ein tîm brofiad o ymchwil cydweithredol aml-broffesiynol sy'n cynnwys Seicoleg Iechyd, Meddygaeth, Bydwreigiaeth, Nyrsio, Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi.
Mae gennym enw da rhyngwladol am ragoriaeth gyda chysylltiadau cydweithredol y tu hwnt i Gymru, yn y DU, mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang. Mae ein hymchwil yn arddangos ymarfer gorau o ran ymwneud â chleifion a'r cyhoedd.
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r grŵp ymchwil hefyd yn cynnig cymorth gan gymheiriaid, arweiniad ymarferol ac yn ymrwymo i adeiladu capasiti a gallu ar draws ymchwil gofal iechyd. Bydd gweithio gyda ni'n eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymhellach, gan gynnig cyfleoedd i chi ddod yn fwy gweithredol o ran ymchwil.
Arweinydd thema
Dirprwy arweinydd thema
Prosiectau ymchwil cyfredol
Mae ein thema ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ffyrdd cyfredol a ffyrdd sy'n ymddangos o’r newydd o drefnu a chyflenwi gofal, ac ar ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella profiadau pobl sy'n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau.
Mae ein thema ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ffyrdd cyfredol a ffyrdd sy'n ymddangos o’r newydd o drefnu a chyflenwi gofal, ac ar ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella profiadau pobl sy'n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau.
Mae cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu galw na welwyd ei debyg, ac mae angen brys am dystiolaeth o ffyrdd newydd o drefnu a gweithio i ymateb i heriau iechyd a gofal cymdeithasol cynyddol gymhleth.
Mae ein portffolio ymchwil ar hyn o bryd yn ymdrin â'r canlynol:
- Datblygiadau arloesol yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac effaith y rhain ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr
- Modelau newydd o ddarparu gofal ac ymagweddau newydd at ymarfer
- Gwell systemau diogelwch i gleifion
- Profiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr
Mae ein prosiectau'n cynnwys cydweithio rhyngddisgyblaethol gydag ymarferwyr ac ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Prifysgol Caerdydd ac o Brifysgolion sy'n rhagorol yn rhyngwladol yn y DU ac yn fyd-eang. Mae gan aelodau o'r thema hon gefndiroedd mewn ymarfer gofal iechyd proffesiynol, gan dynnu ar amrywiaeth eang o ymagweddau ansoddol, meintiol a dulliau cymysg, ac yn cael eu llywio gan ddamcaniaethau a syniadau o feysydd iechyd, rheolaeth a'r gwyddorau cymdeithasol. Fel ymchwilwyr rydym ni'n ymrwymo i ymgysylltu ystyrlon gyda'r holl grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn ogystal â'r rheini sy'n arwain, rheoli a darparu gofal wyneb yn wyneb.
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r thema ymchwil hon hefyd yn ymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac mae aelodau'n ymrwymo i adeiladu capasiti a gallu ar draws ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Croesawir ceisiadau PhD ar amrywiaeth o bynciau. Dylai ceisiadau ymdrin yn uniongyrchol â phwnc ymchwil a ddynodir gan oruchwylwyr y thema. Nodir y pynciau ar broffiliau gwe'r goruchwylwyr. Mae ceisiadau nad ydynt yn ymdrin â dewis bwnc y goruchwyliwr ar gyfer goruchwylio yn annhebygol o fod yn llwyddiannus.
Arweinwyr y Thema Ymchwil

Dr Nicola Evans
Darllennydd: Iechyd Meddwl , Anableddau Dysgu a Gofal Seicogymdeithasol
- evansng@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 206 87298
Prosiectau ymchwil presennol
O fewn ein thema rydym ni'n anelu at ddatblygu gwell dealltwriaeth o amodau ac opsiynau gofal gan ddefnyddio ymagwedd ryngddisgyblaethol.
Drwy'r ddealltwriaeth well hon, rydym ni'n datblygu ac yn gwerthuso asesiadau clinigol, ymyriadau a thechnolegau newydd i wella rheolaeth ar gyflyrau iechyd yn amrywio o boen cyhyrysgerbydol, gofal cardioanadlol, niwrolegol a mamolaeth.
Portffolio ymchwil
Mae ein tîm uchel ei sgiliau'n gweithio ar draws Proffesiynau Iechyd Cyswllt a Bydwreigiaeth gyda phrofiad mewn ymchwil ansoddol, meintiol a dulliau cymysg. Mae ein hymchwil yn cynnwys datblygu a phrofi ymyriadau cymhleth a deall mecanweithiau clefydau a thriniaeth. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr ac elusennau i wneud y gorau o ymgysylltu ac effaith.
Mae meysydd ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Asesiadau biofecanyddol o unigolion gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol i ddeall mecanweithiau clefyd a thriniaeth.
- Datblygu ymyriadau'n canolbwyntio ar gefnogi hunan-reoli a gweithgaredd corfforol i unigolion â chyflyrau tymor hir. Mae hyn ar gyfer oedolion a phlant gyda phoen cyhyrysgerbydol, anhwylderau cardioanadlol neu niwrolegol.
- Profi diogelwch, effeithiolrwydd clinigol a/neu gost ymyriadau newydd o fewn gofal mamolaeth a beichiogrwydd
- Archwilio defnydd o dechnoleg ddigidol mewn lleoliadau adsefydlu a chartref i gyfoethogi technegau asesu a thriniaeth.
Cydweithio
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt. Mae gennym ni brosiectau cydweithredol ar draws y DU ac mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang.
Mae aelodau o'r thema ymchwil yn ymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac adeiladu capasiti a gallu ar draws y rhwydwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Ceisiadau PhD
Croesawir ceisiadau PhD ar bynciau sy'n ymdrin yn benodol â diddordebau ymchwil aelodau'r thema. Rydym ni'n annog myfyrwyr PhD a doethuriaeth broffesiynol i fod yn gyfranogwyr gweithredol yn y thema ymchwil drwy gyflwyno eu hymchwil a mynychu digwyddiadau thema.