Optimeiddio lles a rheoli cyflyrau hirdymor
Mae ein thema ymchwil yn canolbwyntio ar gefnogi gofal unigolyddol i bobl ag anghenion iechyd o feichiogrwydd i reoli cleifion a'u teuluoedd y mae salwch tymor hir a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd wedi effeithio arnynt.
Gyda’r nifer o bobl â chyflyrau tymor hir yn tyfu wrth i'r boblogaeth heneiddio, mae pwysigrwydd datblygu a gwerthuso ymyriadau a gwasanaethau cost effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i leihau'r effaith ar fywyd a gwella ansawdd bywyd i bob oed, yn hanfodol.
Portffolio ymchwil
Mae ein portffolio ymchwil ar hyn o bryd yn ymdrin â'r canlynol:
- deall y ffactorau risg ymddygiadol/ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â chyflyrau tymor hir ac sy'n cyfyngu ar fywyd a chefnogi pobl i hunan-reoli'r cyflyrau hynny
- profi ymyriadau i gyfyngu'r effaith ar bobl sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir gan gynnwys canser, dementia, cyflyrau croen a chymalau llidiol
- gwerthuso darpariaeth gofal ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf yn y gymuned a'r ysbyty i bobl sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd
- archwilio dulliau newydd o gefnogi menywod a theuluoedd yn ystod beichiogrwydd a geni plant.
Arbenigedd a chydweithio
Yng nghyd-destun ymchwil y byd real mae gennym aelodau gydag arbenigedd mewn methodoleg ansoddol, feintiol a chymysg. Mae gan ein tîm brofiad o ymchwil cydweithredol aml-broffesiynol sy'n cynnwys Seicoleg Iechyd, Meddygaeth, Bydwreigiaeth, Nyrsio, Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi.
Mae gennym enw da rhyngwladol am ragoriaeth gyda chysylltiadau cydweithredol y tu hwnt i Gymru, yn y DU, mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang. Mae ein hymchwil yn arddangos ymarfer gorau o ran ymwneud â chleifion a'r cyhoedd.
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r grŵp ymchwil hefyd yn cynnig cymorth gan gymheiriaid, arweiniad ymarferol ac yn ymrwymo i adeiladu capasiti a gallu ar draws ymchwil gofal iechyd. Bydd gweithio gyda ni'n eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymhellach, gan gynnig cyfleoedd i chi ddod yn fwy gweithredol o ran ymchwil.