Optimeiddio iechyd trwy weithgarwch, ffyrdd o fyw a thechnoleg
O fewn ein thema rydym ni'n anelu at ddatblygu gwell dealltwriaeth o amodau ac opsiynau gofal gan ddefnyddio ymagwedd ryngddisgyblaethol.
Drwy'r ddealltwriaeth well hon, rydym ni'n datblygu ac yn gwerthuso asesiadau clinigol, ymyriadau a thechnolegau newydd i wella rheolaeth ar gyflyrau iechyd yn amrywio o boen cyhyrysgerbydol, gofal cardioanadlol, niwrolegol a mamolaeth.
Portffolio ymchwil
Mae ein tîm uchel ei sgiliau'n gweithio ar draws Proffesiynau Iechyd Cyswllt a Bydwreigiaeth gyda phrofiad mewn ymchwil ansoddol, meintiol a dulliau cymysg. Mae ein hymchwil yn cynnwys datblygu a phrofi ymyriadau cymhleth a deall mecanweithiau clefydau a thriniaeth. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr ac elusennau i wneud y gorau o ymgysylltu ac effaith.
Mae meysydd ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Asesiadau biofecanyddol o unigolion gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol i ddeall mecanweithiau clefyd a thriniaeth.
- Datblygu ymyriadau'n canolbwyntio ar gefnogi hunan-reoli a gweithgaredd corfforol i unigolion â chyflyrau tymor hir. Mae hyn ar gyfer oedolion a phlant gyda phoen cyhyrysgerbydol, anhwylderau cardioanadlol neu niwrolegol.
- Profi diogelwch, effeithiolrwydd clinigol a/neu gost ymyriadau newydd o fewn gofal mamolaeth a beichiogrwydd
- Archwilio defnydd o dechnoleg ddigidol mewn lleoliadau adsefydlu a chartref i gyfoethogi technegau asesu a thriniaeth.
Cydweithio
Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt. Mae gennym ni brosiectau cydweithredol ar draws y DU ac mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang.
Mae aelodau o'r thema ymchwil yn ymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac adeiladu capasiti a gallu ar draws y rhwydwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Ceisiadau PhD
Croesawir ceisiadau PhD ar bynciau sy'n ymdrin yn benodol â diddordebau ymchwil aelodau'r thema. Rydym ni'n annog myfyrwyr PhD a doethuriaeth broffesiynol i fod yn gyfranogwyr gweithredol yn y thema ymchwil drwy gyflwyno eu hymchwil a mynychu digwyddiadau thema.