Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio a Dadansoddi Gofodol mewn Amgylcheddau Dinasoedd

Mae Grŵp Ymchwil SPACE yn arbenigo mewn ymchwil ddamcaniaethol a chymhwysol sy'n ymgysylltu'n weithredol â chynulleidfaoedd allanol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Ein nod yw helpu i ddeall y ffordd y mae dinasoedd ac amgylcheddau trefol yn gweithio yn well, yn ogystal â helpu i ddatblygu dulliau cynllunio a pholisïau gwell ar gyfer dylunio a rheoli aneddiadau trefol.

Mae gennym ddiddordebau sylweddol ar draws rheoli datblygiadau, defnydd tir,  newidiadau i’r boblogaeth, morffoleg drefol, dylunio trefol, trafnidiaeth a thai. Yn benodol, mae ein hymchwil yn ymdrin â phynciau sy'n cynnwys: marchnadoedd tai a thir; allanoldebau amgylchedd adeiledig a seilwaith; teithio a thrafnidiaeth gweithredol; amrywiadau gofodol mewn anghydraddoldebau cymdeithasol ac iechyd; cyfalaf cymdeithasol a darparu gwasanaethau; cyfranogiad y cyhoedd, ymgysylltu a chyfiawnder cymdeithasol mewn prosesau cynllunio gofodol; ymatebion dylunio trefol i broblemau cymdeithasol a naturiol; a threfoli a lleihau tlodi trefol mewn gwledydd sy'n datblygu.

Defnyddiwn ddulliau meintiol ac ansoddol yn ein gwaith ymchwil, yn ogystal â dulliau cymysg ac integreiddio data. Caiff y rhain eu hategu gan ddiddordebau methodolegol penodol mewn dadansoddi gofodol, modelu cyfrifiadurol ac ystadegol.

Dylanwad ac effaith

Caiff ein Grŵp ymchwil ei gyllido neu ei gynnal ar ran amrywiol sefydliadau gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Ymchwil Cenedlaethol yr Amgylchedd, y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, Ymddiriedolaeth Leverhulme, yr Adran Datblygu Rhyngwladol a Llywodraethau Cymru a'r Alban. Mae wedi ail-lunio trafodaethau'r Cenhedloedd Unedig ar dai cynaliadwy, yr economi anffurfiol drefol ac integreiddio ffoaduriaid; gwell addysg awyr agored i blant a phobl ifanc yn y DU; nodi patrymau o fod yn agored i newid yn yr hinsawdd a llifogydd yng Nghymru a'r Alban; ac wedi arwain at ddatblygu fframweithiau a modelau ar gyfer mesur manteision cyhoeddus dyfrffyrdd, defnydd tir, ceir a thrafnidiaeth cyhoeddus, ymddygiad cerddwyr a seiclo.

Arweinydd y grŵp

Picture of Neil Harris

Dr Neil Harris

Uwch Ddarlithydd mewn Cynllunio Statudol

Telephone
+44 29208 76222
Email
HarrisNR@caerdydd.ac.uk
Picture of Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Dr Patricia Lopes Simoes Aelbrecht

Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Trefol, Cynllunio ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol

Telephone
+44 29208 75735
Email
AelbrechtP@caerdydd.ac.uk