MSc Peirianneg Sero Net.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn ni’n lansio rhaglen radd newydd sbon, sef MSc Peirianneg Sero Net, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2023.

Arweiniwch y newidiadau tuag at gymdeithas fwy cynaliadwy. Enillwch y sgiliau a’r wybodaeth uwch angenrheidiol i greu atebion datgarboneiddio sy’n cael effaith ac yn bodloni targedau cynaliadwyedd hollbwysig.
Rydyn ni’n defnyddio ymchwil i arwain ein haddysgu ac i ddeall gwyddoniaeth datgarboneiddio mewn ffordd gyffredin a chadarn, a hynny i ddatrys problemau dylunio ac ymchwil.
Mae'r cwrs hwn yn cyfateb i faterion byd-eang a'i nod yw meithrin arweinwyr byd diwydiant ac ysgolheigion sydd â gweledigaeth gyfannol i fuddsoddi mewn ymdrechion cynaliadwyedd.
Dewiswch o ystod o feysydd astudio dewisol:
- Polisïau a rheoliadau amgylcheddol
- Rheolaeth ynni
- Technolegau ynni adnewyddadwy.
- Cynnwys ynni adnewyddadwy yn rhan o’r grid
- Systemau ynni amgen
- Rheoli risgiau a pheryglon
- Systemau pŵer amgen
- Rheoli gwastraff ac ailgylchu
- Modelu gwybodaeth am seilwaith adeiladau
- Dylunio llifogydd
- Mecaneg hylifau amgylcheddol
- Astudiaethau adeiladau amgylcheddol
Mynegi eich diddordeb
Cofrestrwch i dderbyn rhagor o wybodaeth am y rhaglen ac i gael gwybod unwaith y bydd y cwrs yn fyw ar-lein ac yn derbyn ceisiadau.