Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant

Students sat outside Queens

Rydyn ni’n ymfalchïo ein bod yn cynnig sefydliad cynnes a chroesawgar i bawb.

Mae pobl o sawl gwlad a phob lliw a llun ymhlith ein staff a’n myfyrwyr ac mae’n darlithfeydd, ein swyddfeydd a’n labordai i gyd yn hygyrch i’r rhai sy’n defnyddio cadair olwynion.

Rydyn ni’n falch o’r ffaith bod 23% o’n hisraddedigion yn ferched. Mae hynny’n well o dipyn na chyfartaledd y deyrnas i gyd ym maes addysg uwch - dim ond tua 15%, yn anffodus. Un o’n blaenoriaethau yw denu rhagor o ferched i bynciau STEM er cydbwysedd.  Rydyn ni’n hybu awyrgylch lle y gall merched ymhlith ein staff a’n myfyrwyr ffynnu a chyflawni eu llawn dwf. O ganlyniad i hybu merched ym maes peirianneg, rydyn ni wedi ennill Gwobr Efydd Athena Swan.

Mae’r Ysgol yn cefnogi mentrau ehangu mynediad y Brifysgol, yn ogystal â Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywioldeb y Brifysgol. Rydyn ni wedi sefydlu ein mentrau a’n polisïau ein hunain i hybu amrywioldeb a chydraddoldeb hefyd, gan gynnwys hyfforddi ein staff yn briodol.

Rydym yn gobeithio cael cymaint o fyfyrwyr a staff â phosibl i gymryd rhan yn ein digwyddiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rydyn ni’n falch o fod ar frig y prifysgolion (ac yn safle 10 ymhlith 100 o gyflogwyr) ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2020. Mae mudiad Stonewall wedi cydnabod ein harferion ynghylch cyflogi pobl drawsrywiol a hyrwyddo amrywioldeb, hefyd.

Ehangu mynediad

Mae’n bwysig denu, cadw a dyrchafu myfyrwyr o garfanau na fydd cynifer o’u haelodau’n cyrraedd addysg uwch fel arfer.

A ninnau am hyrwyddo cydraddoldeb, rydyn ni’n cydnabod y manteision a all ddod yn sgîl meithrin cymuned amryfal a dawnus o fyfyrwyr.

Rydyn ni’n helpu i ehangu mynediad fel a ganlyn:

  • Codi dyheadau trwy deithiau a darlithoedd yn yr ysgolion, gan dynnu sylw at fyd peirianneg
  • denu cymuned amryfal o fyfyrwyr peirianneg a chroesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bob cefndir.
  • rhoi hyblygrwydd a chymorth trwy gynnig Blwyddyn Sylfaen i israddedigion a threfniadau rhan-amser hyblyg yn rhai o’n cyrsiau i ôl-raddedigion. Mae cymorth ychwanegol drwy gydol y flwyddyn ynghylch Saesneg a mathemateg.

Cysylltwch â ni

Rydym yn annog aelodau ein staff a'n myfyrwyr i gysylltu os hoffent weld unrhyw beth penodol mewn digwyddiadau yn y dyfodol neu i siarad â'n tîm.

Engineering Equality, Diversity and Inclusivity