Ewch i’r prif gynnwys

Sustainable Energy

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Sustainable Energy wedi datblygu gwasanaeth monitro rhwydwaith ynni arloesol i'w gynnig i gleientiaid o ganlyniad i brosiect Ymchwil a Datblygu cydweithredol gyda'r Cyflymydd Arloesi Data (DIA).

Sefydlwyd y cwmni ym 1998 yng Nghaerdydd fel ymgynghoriaeth sy'n arbenigo mewn asesu a datblygu prosiectau ynni carbon isel a di-garbon. Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae'r cwmni wedi tyfu, fel y mae maint ei brosiectau. Erbyn hyn mae gan Sustainable Energy dîm o beirianwyr, dylunwyr, rheolwyr prosiect, ymgynghorwyr arbenigol ac arbenigwyr cyllid sy'n cyflawni prosiectau carbon isel, ynni adnewyddadwy a rhwydwaith ynni ardal ar gyfer amrywiol gleientiaid gan gynnwys awdurdodau lleol, cleientiaid masnachol mawr a sefydliadau'r trydydd sector. Nawr yn fwy nag erioed, mae monitro a rheoli ôl-osod y prosiectau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl ac yn cyflawni'r arbedion carbon ac ariannol a dargedir.

Trwy eu cysylltiadau busnes eu hunain, clywodd y cwmni am yr help oedd ar gael gan y Cyflymydd Arloesi Data, prosiect sy'n cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd i gynorthwyo busnesau bach a chanolig i archwilio a deall buddion arloesi sy'n cael ei sbarduno gan ddata.

Nodon nhw werth posibl dadansoddi data i wella'r system rheoli rhwydwaith ynni oedd yn cael ei ddatblygu'n fewnol. Wrth weithredu rhwydwaith gwres mawr, ceir oedi cyn teimlo unrhyw newidiadau a wneir i'r gwres a gyflenwir gan y ganolfan ynni yn yr adeiladau sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith. Roedden nhw am gael y gallu i ragweld newidiadau posibl a fyddai eu hangen i'r gwres a gyflenwid gan y ganolfan ynni fel, er enghraifft, pe bai cyfnod oer ar y gweill, gellid codi’r gwres i'r rhwydwaith ymlaen llaw, wrth baratoi ar gyfer y galw ychwanegol a ragwelid. Roedden nhw'n defnyddio model galw am wres yn seiliedig ar ddata tymheredd hanesyddol ond roedd angen model mwy soffistigedig fyddai hefyd yn cynnwys ffactorau amgylcheddol (megis data treigl o ragolygon tywydd) i ragfynegi'r galw am ynni (yn ddangosol am y 4 - 12 awr nesaf) gan ddefnyddio dysgu peiriannol.

Datblygodd tîm y DIA amrywiaeth o wahanol efelychiadau rhagfynegol o fodelau ynni gan nodi pa un oedd y mwyaf cywir o'i gymharu â gwir ddata. Roedd hyn yn galluogi datblygu prototeip cyntaf Sustainable Energy o system reoli rhwydwaith clyfar, a gafodd ei gwella gyda'r offeryn newydd ar gyfer dangos y galw am wres a thrydan a defnydd tanwydd, sy'n rhagweld nifer o bwyntiau data yn y dyfodol ar gyfer gwahanol fathau o adeiladau, a grëwyd o ganlyniad i'r cydweithio.  Mae'r system reoli yn rhan o wasanaethau monitro a rheoli ôl-osod Sustainable Energy i’w cleientiaid. Datblygwyd y system brofi ymhellach ers diwedd y cydweithio gyda DIA drwy gasglu a dadansoddi data. Mae wedi bod yn ar waith ers blwyddyn bellach ac mae'r cwmni wedi gallu ei mireinio a'i hoptimeiddio'n fewnol. Maen nhw eisoes yn trafod gwerthu / trwyddedu'r system i'w cleientiaid fel bod modd monitro cynhyrchu a defnydd o ynni ar draws y rhwydwaith ac optimeiddio gweithrediad y rhwydwaith i sicrhau'r arbedion carbon ac ariannol mwyaf posibl.

Mae Sustainable Energy yn bwriadu datblygu'r system ymhellach fel y bydd yn rhan o'r gwasanaeth cyfan a gynigir i'w cleientiaid, o ddichonoldeb i osod a chomisiynu, a monitro a rheoli ôl-osod effeithiol. Mae sicrhau gwell gwasanaethau i gleientiaid yn cynnig potensial ar gyfer effaith ystyrlon ar incwm ac elw.

“Ni fyddai'n bosibl i ni wneud hyn heb gyflogi aelod ychwanegol o staff ar gontract tymor byr ac ni fyddem wedi gwybod y dull gorau o gyflawni ein nodau heb y DIA” meddai cyfarwyddwr y cwmni, Chrissy Woodman. “Mae cefnogaeth tîm DIA wedi ein helpu i ddeall yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud a sut i ddefnyddio data yn fwy arloesol i wella ein gwasanaethau i’n cleientiaid.”