Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae’r Cyflymydd Arloesedd Data yn helpu cwmnïau yng Nghymru i ddefnyddio eu data yn well. Rydym ni’n eich helpu i wireddu grym eich data a’i gofleidio yn eich dyfodol.

Gan dargedu busnesau bach a chanolig, rydym ni’n cydweithio â chwmnïau i ddefnyddio technegau gwyddor data er mwyn creu manteision go iawn i’r busnes

Darllenwch am ein gweledigaeth

Rydym ni wedi ein hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ein nod yw cynyddu’r prosesau ymchwil ac arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd a gaiff eu trosi’n llwyddiannus yn brosesau, gwasanaethau a chynhyrchion masnachol newydd a gwell.

Rydym ni’n rhan o Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd ac yn perthyn i’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ochr yn ochr â mentrau gan gynnwys Uwchgyfrifiadura Cymru, Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol a Chanolfan Ragoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch.

Rydym hefyd yn falch o gael gweithio'n agos gydag Academi Gwyddor Data newydd yr Ysgol, a gafodd ei sefydlu yn sgil y galw uchel am wyddonwyr data a’r ffaith bod angen graddedigion medrus ac uchelgeisiol iawn ar sawl diwydiant.

Cefnogaeth ranbarthol

Bydd ein gwyddonwyr yn cydweithio â chwmnïau yn rhanbarth ‘Dwyrain Cymru’ i fynd i’r afael â heriau busnes tymor byr penodol ac i archwilio ffyrdd o integreiddio technegau gwyddor data o fewn gweithrediadau ‘dydd i ddydd’ cwmnïau yn y dyfodol.

Mae rhanbarth Dwyrain Cymru yn cynnwys:

  • Caerdydd
  • Casnewydd
  • Bro Morgannwg
  • Sir Fynwy
  • Powys
  • Wrecsam
  • Sir y Fflint.

Rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020.