Ewch i’r prif gynnwys

EatSleep Media

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

EatSleep Media - yn eich helpu i adrodd eich stori!

Mae EatSleep Media yn dîm o gynhyrchwyr cynnwys creadigol a fydd yn eich helpu i adrodd eich stori. Maent yn creu cynnwys ar-lein fel fideos a phodlediadau i gysylltu cwmnïau a sefydliadau â'u cymunedau a’u galluogi i adrodd eu straeon, yn ogystal ag estyn i mewn i’r byd teledu, radio a ffilm.

Maent yn gwmni sy'n tyfu ac sy'n cyflogi 9 aelod o staff ar hyn o bryd, ac maent yn gobeithio ychwanegu at hyn yn ystod y misoedd nesaf. Maent wedi bod yn gweithio ar-lein ond yn ddiweddar maent wedi symud i'w safle eu hunain ym Mae Caerdydd.

“Ro’n ni’n chwilio am rywun a oedd yn arbenigo mewn rheoli data,” meddai’r Cyfarwyddwr Masnachol, Daniel J. Harris, “ac ro’n ni wedi gofyn yn y Grŵp Facebook Cardiff Start-up a oedd gan unrhyw un argymhellion. Ro’n ni eisiau rhywun i ddod o hyd i offer a phrosesau i ni er mwyn i ni allu deall cynulleidfaoedd newydd yn well, ac i gasglu’r data a gasglwyd gennym wrth archwilio'r hyn yr oedd y gynulleidfa ei eisiau o gynnwys ar-lein. Argymhellodd rhywun ar y Grŵp Facebook i ni gysylltu â'r Cyflymydd Arloesedd Data (DIA) ym Mhrifysgol Caerdydd, a rhannu'r ddolen i'w gwefan. Dyna sut wnaethon ni ddod at ein gilydd.”

Cysylltodd y DIA ag ESM mewn dim o dro a rhoi gwybod iddynt am y gwaith yr oedden nhw’n ei wneud ac esbonio'r broses ar gyfer gweithio gyda nhw. Yna gwnaeth ESM gwrdd â'r tîm DIA i archwilio'r hyn y mae’r cwmni’n ei wneud a pha gefnogaeth oedd ei hangen, a darparodd y DIA wiriad iechyd data. Yna gwnaeth ESM gais am gyfle prosiect cydweithredol a threulio’r ychydig fisoedd nesaf yn gweithio'n agos gyda'r DIA i ddatblygu syniadau, offer a dulliau ar gyfer archwilio cynulleidfaoedd newydd, profi cynnwys, cynnal arolygon a deall y data a gasglwyd ganddynt.

“Roedd yn hawdd gan fod y tîm yn gefnogol ac ar gael drwy’r amser. Fe wnaethon ni weithio trwy ddulliau a thasgau amrywiol gyda'n gilydd a dysgu llawer ar hyd y daith,” meddai Daniel.

Gyda chymorth y DIA, mae ESM wedi datblygu dull newydd o gasglu data trwy arolygon cynulleidfa sy'n eu helpu i ddeall sut i lunio cynnwys ar gyfer Ballers, eu sioe gylchgrawn newydd. Dysgodd ESM hefyd sut i gasglu a dadansoddi data trwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar ffurf dangosfyrddau amser real sy'n rhoi mewnwelediadau iddynt ar eu postiadau gorau, demograffeg eu dilynwyr a llawer mwy.

Maent bellach mewn sefyllfa lle mae ganddynt brosiect cadarn ac maent yn chwilio am arian a chefnogaeth i lansio'r prosiect hwnnw'n llawn yn y farchnad. Mae ESM o’r farn bod y gwaith a wnaed gyda'r DIA wedi sicrhau bod yr hyn maen nhw'n ei gynnig, eu prosiect, a'u tîm, i gyd bellach yn gryfach o lawer.