Ewch i’r prif gynnwys

Talent Intuition

Sut i wneud y defnydd gorau o'ch data: Prifysgol Caerdydd yn helpu Talent Intuition i wella eu galluoedd data a sicrhau mwy o fuddion i'w cleientiaid.

Mae Talent Intuition yn helpu cwmnïau i wneud penderfyniadau strategol mwy gwybodus trwy gynnig cyfuniad o offer ar gyfer cyrchu data talentau allanol yn ogystal ag ymgynghoriaeth bwrpasol ar wybodaeth am bobl.

Sefydlwyd y cwmni yng Nghaerdydd dair blynedd yn ôl ac mae bellach yn cyflogi wyth aelod o staff, sy'n dod o gefndiroedd corfforaethol.

Prif gynnyrch Talent Intuition yw 'Stratigens' - platfform dadansoddeg marchnad lafur sy'n dod â gwybodaeth am dalentau a busnes a chynllunio'r gweithlu at ei gilydd mewn un lle. Lluniwyd Stratigens gan wyddonwyr data, ac mae'n cyfuno ac yn cyflwyno data credadwy o yn agos i 1500 o ffynonellau data ar 552 o ddinasoedd mewn 52 o wledydd ac yn dileu'r angen i'w cleientiaid ddioddef gwasanaethau ymgynghori drud a llafurus.

Buom ni'n gweithio gyda'r tîm Cyflymydd Arloesedd Data i wella argymhellion platfform Stratigens i gleientiaid a hefyd y ffordd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno i ddefnyddwyr. Mewn cydweithrediad a DIA, mireiniodd y prosiect y ffordd mae'r lleoliadau gorau ar gyfer cyflenwi sgiliau yn cael eu nodi gan algorithmau o fewn y platfform. Caiff allbynnau'r gwaith hwn eu defnyddio i ffurfio strategaeth tymor hirach ar gyfer sgiliau yng Nghymru. Mae'r data y gallwn ei gynhyrchu yn helpu i ddiffinio targedau ar gyfer prosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor (FDI) ac mae'n mynd ati i wella mynediad at sgiliau y bydd galw amdanynt yn y dyfodol.
Y sylfaenydd a'r Prif Swyddog Gweithredol Alison Ettridge

Dechreuodd y bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyflymydd Arloesedd Data (DIA) a Talent Intuition gyda gweithgareddau yn ymchwilio i ddangosyddion pwysig a geir mewn setiau data cymdeithasol (er enghraifft dangosydd "ansawdd bywyd" sy'n deillio o "Fynegai hapusrwydd" a "diwrnodau gwaith safonol"). Gan ddefnyddio gwybodaeth gan Talent Intuition, aeth y DIA ati i greu proses ar gyfer pwyso pwysigrwydd dangosyddion.

Erbyn diwedd y prosiect, cyflwynodd y DIA gymhwysiad prawf-gysyniad lle mae’r defnyddiwr Stratigens yn derbyn lleoliadau dewisol ar sail y sgoriau pwysigrwydd a roddwyd ganddynt i'r algorithm paru.

Awgrymodd Talent Intuition y gallai fod defnydd ehangach i'r prawf-gysyniad hwn o fewn y busnes ac mae wrthi'n gweithio at ei gyflwyno ar raddfa fawr.

Cyflawnwyd y prosiect yn ddidrafferth, gan mai dyma'r ail bartneriaeth rhwng Talent Intuition a'r DIA, a dywed Alison:

"Roedd yn berthynas waith rwydd a chydweithredol; mae tîm DIA wedi ein helpu i ganfod y buddion diriaethol ac maen nhw wir yn griw hyfryd o bobl! Mae profiad tîm DIA yn ddiguro ac mae'n ein helpu i wneud y mwyaf o'r data sydd gennym ni yn Stratigens a sicrhau budd masnachol ychwanegol i'r busnes ac i'n cleientiaid. Fel busnes bach, byddai wedi bod yn anodd i ni ddechrau ar brosiect gwella o'r natur yma. Drwy dderbyn cefnogaeth DIA, gallaf ddweud i sicrwydd y bydd ein cynnyrch lawer yn well yn nhermau'r wybodaeth y gall ei darparu i'n cwsmeriaid."

"Rydym ni'n parhau i ddatblygu gwelliannau ac yn ystyried dulliau ymchwil a datblygu arloesol er mwyn i'n cynnyrch sefyll allan mewn marchnad fyd-eang. Rydym ni'n cystadlu yn erbyn busnesau byd-eang mwy o faint felly mae angen i ni barhau'n arloesol i wahaniaethu ein cynnig. Ein bwriad yw tyfu'r busnes yn gyflym yn ein rhan ni o'r farchnad, gan adeiladu ein tîm technoleg i gystadlu â'r goreuon."