Tîm ehangu cyfranogiad Prifysgol Caerdydd
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi pob myfyriwr i gyrraedd eu potensial, waeth beth fo'u cefndir.
Drwy gael eu mentora yn ogystal â chyrsiau ac ymweliadau â’r campws, rydyn ni’n helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd ac yn eu grymuso i wneud penderfyniadau am eu dyfodol. Rydyn ni’n cynnig ystod o raglenni er mwyn i bobl gael profiadau a chyfleoedd newydd sy’n eu hysbrydoli.
Mynnwch gip ar yn ein tudalennau i weld pa brosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw:
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Tîm Ehangu Cyfranogiad sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn outreach@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim