Ymestyn yn Ehangach - De Ddwyrain Cymru
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru yn rhaglen gydweithredol dan arweiniad timau cyflawni ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.
Nod y partneriaeth yw cynyddu cyfranogiad pobl o grwpiau a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn Ne Ddwyrain Cymru mewn addysg uwch, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl sy’n byw yn 40% isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gofalwyr.
Rydyn ni’n cyflawni nodau Ymestyn yn Ehangach drwy gyfres o raglenni i gefnogi’r gwaith o wella cyrhaeddiad, cynyddu ymwybyddiaeth a rhoi cymorth ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch a chyfleoedd dysgu lefel 4.
Rydyn ni’n rhan o gontinwwm o gefnogaeth i ddysgwyr yn Ne Ddwyrain Cymru ac rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno’r ‘rhaglenni cywir ar yr adeg iawn’ i wella llwybrau dilyniant i Addysg Uwch.
Mae Tîm Cyflawni’r Dwyrain ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwasanaethu Casnewydd, Blaenau Gwent a Chaerffili.
Cysylltu  Thîm Ymestyn Yn Ehangach
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ymestyn yn Ehangach sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn reachingwider@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.