Ewch i’r prif gynnwys

JAMMIND

Nod JAMMIND yw dod â datblygwyr gemau fideo, ymchwilwyr iechyd meddwl, clinigwyr ac ymgyrchwyr iechyd meddwl ynghyd i greu amrywiaeth o gemau gyda'r nod o sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei bortreadu mewn modd cywir a chadarnhaol.

Bydd y rhai sy'n bresennol yn cael eu rhoi mewn timau o bedwar a bydd ganddynt ddau ddiwrnod i ddatblygu eu syniadau a chreu gêm newydd sy'n mynd i'r afael â thema iechyd meddwl. Bydd dwy elfen benodol i'w cynnwys yn y gêm, fydd yn cael eu rhannu ar ddiwrnod cyntaf y jam.

Bydd cyfle hefyd i glywed cyflwyniadau gan seiciatryddion, ymchwilwyr a datblygwyr sydd â phrofiad o ddatblygu gemau, gan gynnwys cymeriadau â phroblemau iechyd meddwl.

Rhaglen

Bydd y jam yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener 28 Medi a dydd Sul 30 Medi.

AmserGweithgaredd
16:30Cyflwyniad i'r jam gemau fideo
Dr Antonio F. Pardiñas, Prifysgol Caerdydd
16:45Canfyddiad iechyd meddwl
Yr Athro Paul Fletcher, Cambridge University
17:15Safbwynt datblygwr
TBC 
17:45Timau, rhwydweithio a pizza
AmserGweithgaredd
9:30Croeso i'r ail ddiwrnod
Te, coffi a chacennau 
10:00Safbwynt o faes Seiciatreg
Dr Ariana Di Florio, Prifysgol Caerdydd
10:30Safbwynt o fyd diwydiant
Dr Natasha Latysheva
11:00Amser datblygu
13:00Cinio
13:45Amser datblygu
AmserGweithgaredd
9:30Croeso i'r trydydd diwrnod
Te, coffi a chacennau
10:00Amser datblygu
13:00Cinio
13:45Amser datblygu
14:45Beirniadu a gwobrau
Bydd pawb sy'n bresennol yn pleidleisio am ei hoff gêm

Cofrestrwch

I archebu lle, ewch i  mrcgamejam.eventbrite.co.uk.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau cysylltwch ag un o'r trefnwyr.

Dr Antonio Pardiñas

Dr Antonio Pardiñas

Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
pardinasa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8407
Catrin Hopkins

Catrin Hopkins

Communications Officer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
hopkinsc7@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8476