Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Ymchwil Feddygol Cyngor yr Ymchwil Feddygol

Rhagor am ddathliad cenedlaethol Cyngor yr Ymchwil Feddygol o ymchwil feddygol.

MRC Festival of Medical Research Logo

Cychwynnodd Cyngor yr Ymchwil Feddygol Ŵyl yr Ymchwil Feddygol fis Mehefin 2016 a’i gorffen yn 2019.

Nod yr Ŵyl oedd arddangos ymchwil feddygol a sut y gall fod o fudd i’n cymdeithas yn ogystal â meithrin ymddiried a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd.

Digwyddiadau blaenorol

Yn ystod Gŵyl Cyngor yr Ymchwil Feddygol yn 2016, bu nifer o ddigwyddiadau megis:

  • dangos ffilm Inside Out ac, wedyn, gêmau'r ymennydd i blant Ysgol Gynradd y Tyllgoed;
  • ffilm MRC SciSCREEN o’r enw ‘The Machinist’ ac, wedyn, darlithoedd gan ymchwilwyr megis Gemma Williams (seicosis) a Katie Lewis (cysgu ac iechyd y meddwl).

At hynny, cymeron ni ran yn sesiwn geneteg #PNDHour Twitter i godi ymwybyddiaeth o ymchwil i iechyd y meddwl adeg esgor.

2017

Yn 2017, cynhalion ni Psychosis: Taith gobaith a darganfod, noson gydag ymgyrchwyr blaengar iechyd y meddwl, Jonny Benjamin a Neil Laybourn, lle edrychon ni ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes geneteg seiciatrig a’r frwydr yn erbyn nod cywilydd.

Darlith Jonny a Neil

Gwyliwch darlith Jonny a Neil yn Saesneg.

2018

Yn ein dathliad mwyaf hyd yma, cynhalion ni ffair wyddonol ar safle’r DEPOT.

Addason ni rai ffefrynnau i adlewyrchu meysydd ein hymchwil megis bachu hwyaden, dewis y cardiau cywir, golff gwallgof a jenga. At hynny, roedd pitsa am ddim, darlithoedd gan ein hymchwilwyr yn y Speakeasy a dewin ar daith.

Rhagor am y ffair ynghyd â lluniau ar Facebook.

2019

I nodi'r ŵyl yng Nghaerdydd yn 2019, gwahoddon ni 40 o ddisgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Eglwys Rufain Sant Joseff, Casnewydd, i Adeilad Hadyn Ellis i ddysgu am eneteg, iechyd y meddwl a'n hymchwil.

Dangosodd ymchwilwyr sut i dynnu DNA a thrafod newidiadau yn ein genynnau wrth chwarae jenga a dewis y cardiau genetig cywir yn ogystal â rhoi cynnig ar gêm fideo wedi’i llunio dros benwythnos gan ymchwilwyr, llunwyr gêmau a phobl oedd wedi dioddef ag afiechyd y meddwl.

Hall of Mirrors
A hall of mirrors showcased PTSD treatment research taking place at Cardiff University.