Ewch i’r prif gynnwys

ATTIC

Sara Rees detail

Roedd ATTIC yn brosiect celf gyfoes a gofod oriel yng Nghaerdydd a oedd yn ymroddedig i archwilio dealltwriaethau personol, diwylliannol a gwyddonol o'r meddwl gan ganolbwyntio'n benodol ar y sbectrwm iechyd meddwl a salwch meddwl.

Cafodd y prosiect ATTIC ei greu heb unrhyw agenda heblaw am greu llwyfan a chyfle diduedd ar gyfer cyfarfyddiadau, deialog a mynegiant creadigol o amrywiaeth o safbwyntiau.

Mater o bersbectif

Wedi'i leoli yng ngofod atig trydydd llawr adeilad, nad oedd modd ei gyrraedd ond drwy fynedfa ochr heb ei marcio, roedd agwedd breifat ac 'anodd ei chyrraedd' ATTIC yn ategu natur dabŵ hanesyddol y pwnc dan sylw.

Cefnogwyd y prosiect gan Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Gwyliwch gofnod fideo o'r prosiect.

Cafodd ATTIC ei sefydlu a'i guradu ar y cyd gan ddau artist, Julia ThomasSara Annwyl. Yn ymwneud â deialog, dwyochredd a thrafodaethau datgelu, mae eu harferion celf personol yn ymgorffori llawer o bryderon canolog y sefydliad.

Mae'r term 'salwch meddwl' wedi’i amgylchynu gan ystrydeb a chysylltiad cul, tra bod ei ystyron yn ddwys mewn gwirionedd.

Mae'r term 'salwch meddwl' wedi’i amgylchynu gan ystrydeb a chysylltiad cul, tra bod ei ystyron yn ddwys mewn gwirionedd.

Julia Thomas & Sara Annwyl ATTIC co-founders
Growth gan Susan Adams

Arddangosfa yn ATTICaerdydd. Arddangosfa o dwf heb ei dymheru, gollyngiadau, rhwygiadau a threiddiadau, cwestiynau ysgogol am y ffordd yr ydym yn ceisio gwneud synnwyr o'r hyn sydd o'n cwmpas ac sydd, ar adegau, yn ein llethu. Cydblethiad lletchwith o'r naturiol a'r dynol, o ffantasi a realiti.

The Whole Shebang gan Amy O'Driscoll

Llochesi porslen o'r arddangosfa yn ATTICaerdydd. Archwiliad o'r preifat a'r cyhoeddus, cysyniadau o loches, breuder a disgwyliadau o berffeithrwydd.

Matrolinous gan Gail Howard

Preswyliad yn ATTICaerdydd. Roedd Matrolinous yn ail-gread o draddodiad teuluol, a basiwyd i lawr trwy linach y fam, i archwilio naratif teuluol a mytholeg. Fel y traddodiadau, y defodau a'r straeon o fewn teuluoedd, mae ein nodweddion genetig yn cael eu trosglwyddo ac yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol.

Remnants from a collaborative performance gan Golden BELE

Gan gymryd testun The Yellow Wallpaper gan Charlotte Perkins Gilman fel man cychwyn, archwiliodd Elen Mai Wyn Jones a Beth Greenhalgh o Golden BELE syniadau am gyfyngiadau ac o'r angen dynol i fod yn greadigol.

Section from Big Science I gan Julia Thomas

Yn symbolaidd o'r nifer o gyfranogwyr, samplau gwaed a chofnodion data sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau genomig seiciatrig ar raddfa fawr, roedd y paentiad yn adlewyrchu màs cyfunol tra'n cydnabod rôl yr unigolyn. Mae gan Thomas ddiddordeb mewn celf fel proses ar gyfer cychwyn sgwrs.

Picking up the Pieces gan Paddy Faulkner

O'r arddangosfa Ymateb Cyflym yn ATTICaerdydd. Yn eiriau a ddewiswyd ac a gymerwyd allan o'u cyd-destun o wefannau a blogiau ar salwch meddwl, roedd y jig-so yn ymateb i'r syniad o 'ddarnau coll'. Roedd y jig-so a'i 'jôcs' iechyd meddwl cysylltiedig yn canolbwyntio ar stereoteipiau a mythau, ein bylchau mewn dealltwriaeth, ac effaith iaith iechyd meddwl.

Mae ymwybyddiaeth, ysbrydolrwydd, niwroleg, geneteg a genomeg, bioleg, ystadegau, seicoleg, seiciatreg, cwnsela, gwleidyddiaeth, hanes, a'r syniadau diwylliannol ehangach ac amrywiol o'r hunan i gyd yn agweddau ar y diriogaeth a gynrychiolir gan y termau 'iechyd meddwl' a 'salwch meddwl'.

Julia Thomas & Sara Annwyl ATTIC co-founders
Institutional Blue gan Paul Whittaker

O'r arddangosfa Ymateb Cyflym yn ATTICaerdydd. Mae Institutional Blue yn ddarn ffilm a gosodiad sy'n ceisio archwilio'r voyeur ym mhob un ohonom. Mae'r gwaith hefyd yn datgan sut, os mai dim ond ciplun o fywyd rhywun y gwelwn ni, na allwn ni ond dychmygu stori eu byd.

cystal gan Richard Huw Morgan

O'r preswyliad Cystal yn ATTICaerdydd. Mae digwyddiadau bywyd trawmatig sy'n cael eu hailystyried, eu hailgwestiynu a'u hailddychmygu yn dod yn llwybr posibl i ddatrysiad neu feddiannaeth seicolegol barhaus.

The Explorers gan Sara Rees

O'r arddangosfa Lacuna yn ATTICaerdydd. Roedd Lacuna yn archwiliad o sut mae atgofion yn ffurfio'r naratifau yr ydym yn llunio ein hymdeimlad o'n hunain drwyddynt. Cynrychiolir ein 'stori' mewn sawl ffordd megis drwy naratifau personol, naratifau teuluol, naratifau meddygol, a naratifau cymunedol.

MARGiN gan Simon L Read

“Wrth fynychu cyfarfodydd ysgrifennu creadigol a myfyriol MARGiN yn ATTIC, fe’m tarwyd gan anffodusrwydd y ffaith ein bod wedi ein lleoli uwchlaw siop alcohol - yn enwedig o ystyried y dylanwad y gall alcohol ei gael ar broblemau iechyd meddwl.” Simon L. Read

Polar Exploration gan Victoria J. E. Jones

Gan ddefnyddio'r atig fel trosiad ar gyfer rhesymoledd ac eglurder meddwl, dyfeisiwyd Polar Exploration fel gofod myfyrio i alluogi pobl i deimlo eu bod yn cael eu trawsgludo’n feddyliol. Mae Jones yn ymddiddori mewn gwneud gwaith sy'n teimlo'n bositif a chalonogol.

Gofod ATTIC

Wedi'i leoli yng ngofod atig trydydd llawr adeilad, nad oedd modd ei gyrraedd ond drwy fynedfa ochr heb ei marcio, roedd agwedd breifat ac 'anodd ei chyrraedd' ATTIC yn ategu natur dabŵ hanesyddol y pwnc dan sylw.

Beth yw'r berthynas rhwng mannau preifat a chyhoeddus?

Mae'r Gwyddonydd Cymdeithasol Dr Jamie Lewis yn archwilio'r ystyr y tu ôl i bensaernïaeth, gan edrych yn benodol ar y berthynas rhwng Adeilad Hadyn Ellis a’r prosiect ATTIC.

Dr Jamie Lewis yn trafod y prosiect

Ar ôl ATTIC

Mae ATTIC bellach wedi dod i ben, gyda'r gofod atig a arferai fod yn segur bellach yn cael ei ddefnyddio gan yr elusen iechyd meddwl sy'n meddiannu gweddill yr adeilad. Gallwch ddarllen mwy ar wefan ATTIC.