Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Patients being treated

Ein nod yw cynyddu capasiti ymchwil yng Nghymru, ac adeiladu partneriaethau gydag ymchwilwyr ledled y byd i ddylunio, cynnal a chyhoeddi treialon ac astudiaethau sydd wedi'u dylunio'n dda.

Portffolio ymchwil

Mae ein portffolio ymchwil presennol yn helaeth ac yn ymdrin â newid ymddygiad, canser solet a chanserau gwaed, plant a phobl ifanc, a heintiau. Rydym yn parhau i ddatblygu astudiaethau sydd wedi'u cynllunio'n dda y tu allan i'n hardaloedd craidd, gan gynnwys treialon ar gyfer dyfeisiau meddygol, ac yn sefydlu portffolio o ymchwil ar y person hŷn.

Rydym yn barod i ystyried unrhyw astudiaeth neu syniad am dreial sydd wedi’u cynllunio'n dda, hyd yn oed rhai sydd y tu hwnt i’n meysydd ymchwil presennol. Rydym yn annog ymchwilwyr i gysylltu â ni ynghylch partneriaethau newydd a syniadau prosiect posibl gyda'n gilydd.

Canolfan arbenigedd ymchwil

  • Treialon cyffuriau o'r cyfnod cynnar i’r cyfnod diweddar
  • Treialon ac ymyriadau cymhleth
  • Deall mecanweithiau clefydau posibl a'r ffordd y mae triniaethau’n gweithio
  • Astudiaethau o garfannau
  • Cynnal hap-dreialon wedi’u rheoli mewn lleoliadau cymunedol a lleoliadau nad ydynt yn rhai iechyd
  • Troi ymchwil yn bolisi ac ymarfer
CTR 4 Division Logos Aspect Ratio 16 9

Divisions

The Centre for Trials Research at Cardiff university is one of the largest Registered Clinical Trials Units in the UK. We are organized into four divisions, each with specialisms.

Increasing Research Capacity

Research themes

We work collaboratively with the public, partners in academia, and researchers across a wide range of research areas.

RDCS Client

Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil

Mae’r Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil (RDCS) De Ddwyrain Cymru yn cefnogi staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol i ddatblygu cynigion ariannu ymchwil o ansawdd uchel.