Ewch i’r prif gynnwys

Aelodau cyswllt

Mae Rhaglen Aelodau Cyswllt Treialon Cymru yn galluogi staff sy’n gweithio mewn sefydliadau rhanddeiliaid ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio â’r Ganolfan Ymchwil Treialon.

Mae'n agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y gymuned darparu iechyd a gofal neu ymchwil (gan gynnwys sefydliadau addysg uwch) yng Nghymru.

Nod y rhaglen:
  • cefnogi aelodau cyswllt o gefndiroedd proffesiynol gwahanol yn eu gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag ymchwil
  • cynyddu ymwybyddiaeth o waith Uned Treialon Clinigol
  • creu cymuned ymchwil gryfach fyth ledled Cymru

Manteision i ymgeiswyr

Bydd pob aelod cyswllt yn cael mentor personol, sesiwn ymgynefino, a chynllun datblygiad personol. Bydd pob cynllun yn cael ei deilwra yn unol â’r hyn sydd ei angen ar bob ymgeisydd. Hwyrach y bydd hyn yn cynnwys:
  • mynd i gyfarfodydd a seminarau’r Ganolfan
  • hyfforddiant mewnol
  • arsylwi ar bwyllgorau’r Ganolfan
  • cysgodi staff mewn amrywiol rolau ar draws y Ganolfan er mwyn dysgu am rolau, swyddogaethau’r timau, a’r prosesau astudio gweithredol gwahanol
  • cyfleoedd am secondiadau i’r Ganolfan
Bydd aelodau cyswllt yn rhan o’r rhaglen am o leiaf 6 mis ac uchafswm o 3 blynedd. Byddwch chi hefyd yn rhan o grŵp o aelodau cyswllt, a’n gobaith yw y bydd y grŵp yn bencampwyr ar gyfer y Ganolfan a threialon yn fwy cyffredinol yn eich sefydliad neu'ch rhanbarth.

Mae’r cynllun yn berthnasol i ymgeiswyr unigol, yn hytrach nag i sefydliadau sy’n cyflogi. Nid yw’r amser y bydd yr ymgeiswyr yn ei dreulio gyda ni yn cael ei ariannu gan y cynllun: ei fwriad yw cefnogi datblygiad proffesiynol, ar ôl i gyflogwyr yr ymgeisydd gytuno ar hyn. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw trafod yr ymrwymiadau amser angenrheidiol gyda’u cyflogwr, a gweithio gyda’u mentor i adnabod y cyfleoedd sy’n cyd-fynd â’r amser sydd ar gael.

Llinell amser ymgeisio

Bydd y rhaglen yn cychwyn ar ddwy adeg yn ystod y flwyddyn: Mis Hydref a mis Ebrill. Mis Rhagfyr a mis Gorffennaf fydd y dyddiadau cau ar gyfer ymgeisio.

Bydd rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer carfan mis Ebrill 2024 erbyn 12 Ionawr 2024. Bydd pob cais yn cael ei adolygu gan banel o staff yn y Ganolfan Treialon Ymchwil.

Byddwn ni’n rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus mewn da bryd er mwyn iddyn nhw wneud paratoadau i ymuno â’r cynllun ar yr adeg sydd orau ganddyn nhw.

Ymgeisiwch Nawr I Ymuno â'r Rhaglen Aelodau Cyswllt

Rhaglen Aelodau Cyswllt – Cwestiynau Cyffredin

Pwy fydd y mentoriaid?

Daw'r holl fentoriaid o’r Ganolfan Treialon Ymchwil. Byddant naill ai wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant mentora sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd yn y Ganolfan Treialon Ymchwil neu byddant wedi cael hyfforddiant yn flaenorol sy’n bodloni’r un canlyniadau dysgu. Fe’u dewisir drwy broses baru yn seiliedig ar y mentoreion sy’n cyflwyno cais a dim ond un mentorai a fyddai gan bob mentor o'r cynllun cyswllt hwn ar y tro.

Pa feini prawf fydd yn cael eu defnyddio i ddewis Aelodau Cyswllt?

Bydd aelodau cyswllt yn cael eu dewis yn seiliedig ar sut mae eu cynnig yn cyd-fynd â’r hyn y gall y Ganolfan ei gynnig: Lle na allwn baru mentor â’r cynnig gan yr ymgeisydd, byddwn yn cynnig adborth ac yn cyfeirio at unedau treialon clinigol eraill neu gyfleoedd posibl mewn mannau eraill. Rydym yn gobeithio denu amrywiaeth o aelodau cyswllt o wahanol gefndiroedd proffesiynol, ar wahanol adegau yn eu gyrfa o bob cwr o Gymru. Yn yr un modd, rydym wedi hyrwyddo’r hyfforddiant mentora ar draws pob grŵp adnoddau yn yr Uned Treialon Ymchwil i gefnogi datblygiad proffesiynol y staff a datblygu ein gallu i ddiwallu anghenion yr aelodau cyswllt. Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn rhoi syniad i ni o ehangder y diddordeb yn y cynllun ac a oes angen i ni fynd ati i’w hyrwyddo mewn grwpiau rhanddeiliaid penodol. Os oes gennym fwy o geisiadau nag y gallwn eu bodloni, yna byddwn yn blaenoriaethu yn seiliedig ar i) amrywiaeth broffesiynol a daearyddol ii) cyfleoedd eraill sydd ar gael iii) pobl nad ydynt yn gweithio gyda’r Ganolfan ar hyn o bryd.

A allwch chi roi enghreifftiau o’r mathau o bethau y gallai pobl ofyn amdanynt?

Bydd rhaglen pawb yn edrych ychydig yn wahanol yn dibynnu ar eu nodau, ond darperir rhai enghreifftiau ar ddiwedd y Cwestiynau Cyffredin hyn.

A fydd ceisiadau gan staff mewn rhanbarthau/sefydliadau yng Nghymru yn nodi bod ganddynt lefelau isel o weithgarwch ymchwil, neu mewn rolau a gynrychiolir yn wael fel arfer fel arweinwyr ymchwil, e.e. anghlinigol, yn cael eu blaenoriaethu/annog i ymgeisio?

A: Rydym yn annog ceisiadau o bob maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddem yn gwahodd trafodaethau anffurfiol gydag unrhyw un sy’n teimlo y byddai ganddynt ddiddordeb mewn bod yn rhan o hyn er mwyn helpu i gefnogi eu ceisiadau yn y ffordd orau. Wrth adolygu, byddwn yn ceisio penodi aelodau cyswllt sy’n cynrychioli ehangder ein gweithgarwch.

A fydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwrthod yn cael adborth?

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael cynnig adborth a, lle bynnag y bo’n bosibl, yn cael eu cyfeirio at gyfleoedd eraill.

Mae angen i’r rhestr lawn o bartneriaid fod yn glir. Ydy hyn hefyd yn cynnwys sefydliadau addysg uwch?

Ydy. Mae’r Rhaglen Aelodau Cyswllt yn agored i bob sefydliad rhanddeiliad yng Nghymru sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes ymchwil a sefydliadau addysg uwch.

Gallai hyn gysylltu â rhaglen Trac Academaidd Clinigol Cymru.

Gallai'r cynllun Cyswllt gael ei ddefnyddio fel cam tuag at wneud cais am raglen gymrodoriaeth Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) yn ogystal â chyfleoedd eraill fel y rhai a gynigir gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Rydym yn bwriadu gweithio ar fap sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng y mathau hyn o gyfleoedd i helpu pobl i lywio eu ffordd i rywbeth sy’n addas iddyn nhw.

Gall diffyg cymorth ariannol gyfyngu ar y gefnogaeth i’r cynllun a gall staff clinigol ei chael hi'n anodd os nad oes amser penodol.

A: Nid ydym yn gallu cynnig cymorth ariannol ond gobeithiwn y gall y cynllun fod yn gam tuag at gyfleoedd a ariennir os mai dyna mae’r aelod cyswllt yn chwilio amdano. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd y gall fod i ymarferwyr gael amser ymchwil wedi’i glustnodi. Rydym wedi cynllunio’r Cynllun Aelodau Cyswllt yn y fath fodd a chyda lefel o ymrwymiad amser y gellir ei ystyried yn rhan o’u hamser datblygiad proffesiynol personol.

Sut fydd y cynllun hwn yn wahanol i gynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt NIHR?

Mae cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt NIHR fel arfer yn gysylltiedig ag astudiaethau penodol, mae’n dibynnu ar y ffit rhwng yr astudiaeth a’r ymarferydd ac yn para am chwe mis, felly mae’r ddau gynllun hyn yn cynnig math gwahanol o gyfle. Fodd bynnag, efallai y gallai dod o hyd i le ar y cynllun Prif Ymchwilydd fod yn un amcan o fewn y cynllun mentora pe bai hynny’n diwallu anghenion Aelod Cyswllt y Ganolfan Treialon Ymchwil.

Sut y byddwch yn sicrhau bod cydraddoldeb daearyddol, fel bod aelodau cyswllt o Abertawe neu Fangor yn cael gwybod am gyfleoedd/dolenni/unedau treialon yn lleol?

Bydd tair agwedd Treialon Cymru i gyd yn gweithio’n agos gyda’r unedau treialon clinigol eraill yng Nghymru, felly byddem yn bendant yn ceisio cysylltu aelodau cyswllt ag unrhyw gyfleoedd sydd ar gael iddynt yng Nghymru.

Beth fydd yn ddisgwyliedig gan yr aelodau cyswllt?

Gobeithiwn y bydd yr aelodau cyswllt yn hyrwyddwyr yn eu gwaith i’r Ganolfan Treialon Ymchwil a’r unedau treialon clinigol yng Nghymru, gan ledaenu’r gair am y gwaith y maent yn ei wneud. O ran yr hyn y byddai angen i chi ei wneud fel aelod cyswllt, bydd yn cynnwys cael cymeradwyaeth gan eich rheolwr llinell, cwrdd â’ch mentor yn rheolaidd, cynnal cofnod o weithgareddau a rhoi adborth i’r Ganolfan ar eich profiad fel rhan o’n gwelliant parhaus.

A oes unrhyw ffordd o roi syniad o ymrwymiad tebygol o ran amser (isafswm/uchafswm) a beth sy’n pennu hyd?

Rydym yn rhagweld o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i hanner diwrnod y mis i sicrhau y gall yr aelod cyswllt gael budd o’r profiad. Er nad ydym yn rhoi uchafswm o ran amser, bydd disgwyl i aelodau cyswllt drafod ymrwymiadau realistig gan y Ganolfan a chyda’u rheolwr llinell eu hunain. Bydd hyd yr aelodaeth yn cael ei benderfynu fel rhan o’r cynllun mentora a fydd yn cael ei lunio rhwng y mentor a’r mentorai. Bydd yn seiliedig ar yr anghenion y mae'r mentorai wedi’u nodi a gallu uned treialon clinigol i gynnig y cyfleoedd i ddiwallu’r anghenion hynny a'r amserlen debygol o gyflawni hyn.

A oes unrhyw bwynt cyswllt i bobl ofyn cwestiynau/trafod cymhwysedd yn uniongyrchol?

Sue Channon (channons2@caerdydd.ac.uk) yw arweinydd academaidd y cynllun ac mae’n hapus i drafod unrhyw gwestiynau am y cynllun gydag ymgeiswyr posibl.

Sut fydd hyn yn cyd-fynd â datblygiadau’r Gyfadran gan fod, yn ôl pob golwg, ryw dir cyffredin i ddatblygu/osgoi ailadrodd ag ef?

Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Gyfadran gan ein bod yn gobeithio y bydd cyfleoedd am synergedd rhwng y ddwy raglen.

Enghreifftiau ar gyfer darpar ymgeiswyr

  1. Rhywun mewn rôl ymchwilydd/ymarferydd/sy'n canolbwyntio ar bolisi heb unrhyw brofiad o Uned Treialon Clinigol: 

    Mae ganddynt ddiddordeb mewn sut mae ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol yn effeithio ar eu gwaith (efallai wrth ddarparu gwybodaeth, neu o bosibl fel "cam nesaf" ar gyfer eu gwaith) a hoffent ddysgu mwy: Efallai eu bod wedi clywed am unedau treialon clinigol, ond nid oes ganddynt unrhyw wybodaeth am dreialon na gwaith uned treialon clinigol.

    I bobl yn y sefyllfa hon, gallem gynnig cipluniau o wahanol agweddau ar yr uned treialon clinigol i roi trosolwg iddynt y gallant ei drafod gyda’r mentor i ystyried sut mae hyn yn cyd-fynd â’u gwaith. Enghreifftiau o hyn fyddai mynediad i gyfarfodydd staff (i ddeall ehangder y gwaith); cyfarfodydd adrannol sy’n gweddu’n fwyaf agos â’u maes diddordeb (i ddeall sut y gallai eu gwaith gydblethu â’r gwaith mewn uned treialon clinigol); amser o weithio mewn tîm ar wahanol adegau o astudiaeth e.e. datblygu cais (i ddeall elfennau'r cais a sut mae syniad yn mynd o gwestiwn i ddyluniad) neu, er enghraifft, os oes ganddynt ddiddordeb mewn effaith, amser gyda thîm yn ystod y cyfnod lledaenu; os oes ganddynt ddiddordeb yn agweddau gweithredol yr uned treialon clinigol, gallent arsylwi ar gyfarfodydd penodol fel grŵp mabwysiadu’r astudiaeth i weld sut mae’r uned treialon clinigol yn ymgymryd â phrosiectau penodol, a gallent dreulio amser gyda grŵp adnoddau penodol. Byddai "sesiynau ôl-drafod" rheolaidd gyda’r mentor i’w cefnogi i gyfosod y wybodaeth a sicrhau ei bod yn rhoi’r hyn y maent ei eisiau o’r broses.

  2. Ymarferydd sydd â pheth profiad o ymchwil ond sydd eisiau deall sut y gallai uned dreialon eu helpu i ddatblygu eu gwaith ymhellach  

    Mae ganddynt syniadau ymchwil, efallai eu bod wedi cael grantiau bach, wedi cwblhau PhD ond nid ydynt yn teimlo eu bod yn barod i gymryd y camau nesaf.

    I rywun yn yr amgylchiadau hyn gallem gynnig unrhyw elfennau o enghraifft 1 fel math o gyfeiriadedd (yn dibynnu ar eu profiad hyd yma) ond ar gyfer y grŵp hwn byddai’r ffocws ar broses syniad o’r camau cynnar hyd at gyllid. Byddai hyn yn rhoi cipolwg iddynt ar rôl uned treialon clinigol wrth gefnogi ymarferydd, prif ymchwilydd neu gyd-ymgeisydd. Trwy gysgodi prosiect sy’n cael ei ddatblygu, byddent yn cael mewnwelediad i’r camau dan sylw, y cyd-destun cyllido, proses y tîm a rolau gwahanol aelodau o’r tîm. Yn ogystal â’u mentor, gallent dreulio amser gyda phrif ymchwilydd profiadol, aelodau tîm o wahanol grwpiau adnoddau a thimau prosiect ymhellach ymlaen yn y cylch astudio. Byddai’r sesiynau mentora yn cynnwys trafod y prosesau gweithredol dan sylw ond hefyd meddwl am gyfleoedd posibl y tu allan i’r uned treialon clinigol i helpu’r unigolyn i symud ymlaen. Gallai hyn gynnwys cyfeirio at grwpiau seilwaith eraill neu gyfleoedd cyllido y gallent wneud cais amdanynt.

  3. Rhywun sy’n chwilio am ragor o wybodaeth am faes arbenigedd penodol yn yr uned treialon clinigol 

Efallai y bydd gan yr unigolyn hwn brofiad ymchwil sylweddol, gallent fod yn academydd clinigol neu’n gweithio mewn Sefydliad Addysg Uwch ond maent yn teimlo bod meysydd gwaith yn yr uned treialon clinigol y gallent elwa o ddysgu mwy amdanynt. Er enghraifft, efallai eu bod am gael y cyhoedd i gyfrannu mwy at eu gwaith neu eisiau sicrhau eu bod yn defnyddio dull mwy cynhwysol yn eu strategaeth recriwtio. Yn y math hwn o senario, byddai’r rhaglen yn cysylltu’r aelod cyswllt yn uniongyrchol â’r unigolyn/tîm priodol a fyddai’n tynnu sylw at eu gwaith yn yr uned treialon ymchwil ac yn cefnogi’r aelod cyswllt i ddatblygu ei syniadau ei hun yn y maes gweithgaredd penodol hwn.

Ymgeisiwch Nawr I Ymuno â’r Rhaglen Aelodau Cyswllt

Dr Sue Channon

Dr Sue Channon

Deputy Director of Research Design and Conduct Service

Email
channons2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 20875047