Ewch i’r prif gynnwys

Ymholiadau doethurol

Mae'r Ganolfan yn arbenigo mewn astudiaethau gwyddor gymdeithasol o Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain gyfoes.

Rydym ni'n croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr doethurol ar gyfer prosiectau ar amrywiaeth eang o bynciau, sy'n ymwneud yn benodol ag Islam a Mwslimiaid yng nghyd-destun Prydain ac sy'n defnyddio technegau ymchwil gwyddor gymdeithasol / anthropolegol.

Mae croeso hefyd i ymholiadau am ymchwil ryngddisgyblaethol / a gyd-oruchwylir gan fod gan y Ganolfan gysylltiadau cryf ag academyddion sy’n gweithio mewn Ysgolion eraill ym Mhrifysgol Caerdydd fel:

Pynciau ymchwil posibl

  • Hyfforddi Imamiaid ac arweinyddiaeth grefyddol ym Mhrydain
  • Hanes a datblygiad y gymuned Fwslimaidd yng Nghymru
  • Caplaniaeth Fwslimaidd ac Islam mewn bywyd cyhoeddus
  • Menywod Mwslimaidd ym Mhrydain: strategaethau grymuso
  • Islam yn yr amgylchedd trefol
  • Economeg cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain
  • Trawsnewid meddwl crefyddol mewn cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Sut i wneud ymholiad

Anfonwch eich cynnig ysgrifenedig ynghyd â CV cyfredol i'r Athro Gilliat-Ray: gilliat-rays@caerdydd.ac.uk

Er mwyn i ni allu ymdrin â'ch ymholiad am ymchwil ddoethurol, anfonwch gynnig ysgrifenedig o ddeutu 3,000 o eiriau. Dylai hyn amlinellu:

  • nodau ac amcanion eich ymchwil
  • eich cwestiynau ymchwil
  • y fethodoleg y bwriadwch ei defnyddio
  • amserlen ddangosol
  • llyfryddiaeth.