Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Two Muslim men enjoy a conversation outside the University's Main Building

Lansiwyd ein Canolfan yn 2005 gan Yusuf Islam (‘Cat Stevens’), a dyma bellach y sefydliad academaidd arweiniol ar gyfer ymchwil a dysgu am Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.

Mae gan Gaerdydd un o’r poblogaethau Mwslim hynaf a mwyaf amrywiol yn y DU. Sefydlwyd rhai o'r mosgiau cynharaf yn y ddinas ar ddechrau'r 20fed ganrif. Erbyn heddiw, mae dros 45,000 o Fwslimiaid yng Nghymru, gydag yn agos i hanner o'r rhain yn byw yng Nghaerdydd (Cyfrifiad 2011). Mae hyn yn golygu bod Caerdydd yn lleoliad delfrydol ar gyfer dysgu mwy am hanes a sefyllfa gyfredol cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Canolfan ddysgu

Mae gan y Ganolfan, sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, berthynas gref a chadarnhaol gyda’r gymuned Fwslimaidd leol. Mae Mwslimiaid lleol yn rhan o Grŵp Ymgynghorol y Ganolfan, ac rydym yn falch o’r bartneriaeth hon. Rydym yn rhagweld y bydd y Ganolfan yn hwb hygyrch, bywiog a chynhwysol ar gyfer dysgu am Islam yng Nghaerdydd a de Cymru, i Fwslimiaid ac unrhyw un nad yw’n Fwslim fel ei gilydd.

Casgliadau pwysig o adnoddau

Ymhlith ein hadnoddau ymchwil y gellir eu cyrchu y tu hwnt i Gaerdydd mae traethodau ymchwil gan gyn ysgolheigion MA a PhD Jameel, a recordiadau o lawer o'n darlithoedd cyhoeddus a digwyddiadau eraill.