Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Haroon Sidat, Research Associate, sat at desk in library, studying with books and laptop

Mae gennym hanes hir o ymgymryd ag ymchwil amlddisgyblaethol ar amrywiaeth eang o bynciau'n gysylltiedig â bywydau Mwslimiaid ym Mhrydain.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ymchwil y Ganolfan wedi cynnwys gwaith ar y canlynol:

  • y Gaplaniaeth Fwslimaidd
  • meithrin ac addysg grefyddol plant Mwslimaidd
  • amgylcheddaeth Islamaidd
  • lle mae 'llysoedd' crefyddol yn croestorri â chyfraith teulu sifil.

Rydym ni'n arbenigo mewn methodoleg gwyddor gymdeithasol / anthropolegol ansoddol, ac yn pwysleisio cydweithio gweithredol gyda'n cyfranogwyr ymchwil er mwyn ymdrin â materion sy'n bwysig i gymunedau Mwslimaidd Prydain eu hunain. Gwneir hyn drwy brosiectau ymchwil doethurol, yn ogystal â gwaith a gyllidir yn allanol dan nawdd cynghorau ymchwil academaidd fel AHRC/ESRC ac elusennau fel BGCI.

Cydweithio

Ers cael ei lansio yn 2005, mae Canolfan Islam-y DU wedi denu dros £4.6M o gyllid ymchwil gan gynghorau ymchwil academaidd, elusennau a rhoddion preifat. Mae ein Rhaglen Ysgoloriaeth Jameel yn cefnogi ymchwilwyr MA, PhD ac ôl-ddoethurol sy'n gweithio ar bynciau amrywiol.

Enw da rhyngwladol

Er bod llawer o'n hymchwilwyr yn hanu o'r DU, rydym ni hefyd wedi croesawu ysgolheigion rhyngwladol o'r Eidal, UDA a Gwlad Pwyl. Mae Canolfan Islam-y DU ar y blaen o ran ymchwil ym maes 'Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig' sy'n dod i'r amlwg, a bellach mae'n adnabyddus yn rhyngwladol fel y brif ganolfan rhagoriaeth ar gyfer astudio Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.