Ewch i’r prif gynnwys

Cael sgan MRI

Profiad o sut beth yw cael sgan MRI yn y Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC)

Dysgwch sut brofiad yw cael sgan MRI (delweddu cyseiniant magnetig) yn y Ganolfan.

Cyrraedd

Pan fyddwch yn cyrraedd y Ganolfan, ewch i ddesg y dderbynfa. Ar ôl mewngofnodi, gofynnir i chi eistedd ger y dderbynfa hyd nes y daw ymchwilydd i’ch casglu. Pan fyddwch yn cyrraedd y man ymgynghori â chyfranogwyr, gofynnir i chi lenwi ffurflen sgrinio.

Cyfeiriad CUBRIC a chyfarwyddiadau teithio.

Llenwi’r ffurflen sgrinio

Gan fod y sganiwr MRI yn defnyddio magnet cryf a thonnau radio, bydd angen i’r ymchwilydd wneud yn siŵr ei bod hi’n ddiogel i chi gael sgan. Ar ôl i chi gyrraedd y man ymgynghori â chyfranogwyr, bydd yr ymchwilydd yn gofyn i chi lenwi ffurflen sgrinio. Bydd hon yn cael ei gwirio’n ofalus cyn i chi fynd i mewn i ystafell y sganiwr.

Gofynnir i chi dynnu pob gwrthrych metel oddi amdanoch, megis gemwaith, tlysau, watshis, allweddi, ffonau symudol, ceiniogau, gripiau gwallt, ac ati. Hefyd, gofynnir i chi newid i mewn i sgrybiau, i wneud yn siŵr nad oes metel cudd yn eich dillad. Bydd locer ar gael ar gyfer eich eiddo.

Y staff sy’n cynnal y sgan

Un o’n gweithredwyr MRI fydd yn cynnal y sgan. Mae’r gweithredwyr MRI yn weithwyr proffesiynol sgilgar iawn ag arbenigedd mewn defnyddio sganwyr, ac yn rhan o dîm proffesiynol fydd yn gofalu amdanoch yn ystod eich ymweliad â CUBRIC.

Yn ystod y sgan

Ar ôl i chi gael eich sgrinio a newid i mewn i sgrybiau, bydd rhywun yn mynd â chi i mewn i ystafell y sganiwr ac yn eich gwneud yn gyffyrddus ar wely’r sganiwr (gyda’r opsiwn i ddefnyddio gobenyddion a blancedi os ydych eisiau).

Er mwyn cael delweddau o ansawdd uchel, mae’n bosibl y rhoddir teclyn ar siâp arbennig am ran y corff sy’n cael ei sganio (y pen, mwy na thebyg). Oherwydd y ffordd unigryw y mae’r sganiwr MRI yn gweithio, byddwch yn clywed synau uchel, ysbeidiol tra bod y sganiwr yn gweithio. I leihau’r sŵn, rhoddir plygiau clust i chi ar gyfer y sesiwn sganio.

Mae delweddau MR yn sensitif iawn i symudiadau. Felly, er mwyn sicrhau delweddau o’r ansawdd gorau, gofynnir i chi gadw’n llonydd iawn yn ystod y sgan. Bydd y gweithredydd MRI yn helpu i sicrhau eich bod yn gyffyrddus yn y sganiwr, fel eich bod yn teimlo'n ddiogel ac wedi ymlacio.

Mae MRI wedi cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ers y 1980au ac nid oes unrhyw sgîl-effeithiau hysbys. Gan na ddylai'r sgan effeithio arnoch yn gorfforol mewn unrhyw ffordd, gallwch fynd o gwmpas eich tasgau dyddiol arferol ar ôl gadael y Ganolfan.

Rhagor o wybodaeth am ein sganwyr MR.

Amser sganio

Yn nodweddiadol, mae sgan MRI yn CUBRIC yn cymryd rhwng 30 munud a 90 munud, yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei astudio. Rhoddir y wybodaeth hon i chi cyn i chi gyrraedd.

Mae llenwi ffurflen sgrinio a newid i scrybiau’n cymryd tua 20 munud. Dylech ganiatáu ar gyfer amser ychwanegol rhag ofn y bydd y sgan yn parhau'n hirach na'r disgwyl, yn ogystal â newid allan o scrybiau ar ôl sganio.

Mathau o ddelweddau o’r ymennydd

Bydd y mathau o ddelweddau a gipiwn yn dibynnu ar yr astudiaeth rydych yn cymryd rhan ynddi, a bydd y gweithredwyr MRI yn esbonio hyn i chi cyn i chi fynd i mewn i'r sganiwr. Yn achos llawer o sganiau, y cyfan sydd angen i gyfranogwr ei wneud yw gorwedd yn llonydd yn y sganiwr tra bod y delweddau'n cael eu cymryd.

Cymerir delweddau safonol o anatomi a strwythur yr ymennydd ar gyfer pob cyfranogwr. Bydd rhai cyfranogwyr cyn cael sgan MRI  swyddogaethol (fMRI), lle caiff gweithgaredd ei berfformio yn y sganiwr (e.e. edrych ar luniau neu daro botwm), sy'n ein galluogi i gael gwybodaeth am yr ymennydd ar waith. Os yw hyn yn berthnasol, fe’i hesbonnir i chi pan ofynnwyd i chi gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Rhagor o wybodaeth am sganiau MRI swyddogaethol.

Cael mynediad i’m delweddau

Noder bod y Ganolfan yn gyfleuster ymchwil yn unig, ac ni chewch unrhyw gyngor neu ddiagnosis meddygol ar ôl cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil, ac ni fyddwch yn cael copi o'r delweddau. Mae mwyafrif o’n hymchwilwyr heb eu hyfforddi'n feddygol ac, fel y cyfryw, ni allwn gynnig unrhyw farn feddygol neu driniaeth ar ôl sganio.

Mae’r holl ddelweddau yn ddienw a chânt eu cadw yn ein cronfa ddata diogel. Mae’r delweddau yn hygyrch i’n hymchwilwyr at ddibenion ymchwil wyddonol yn unig.

Hygyrchedd ar gyfer gwirfoddolwyr anabl

Mae gan ein holl gyfleusterau fynediad llawn a chyfleusterau toiledau ar gyfer pobl anabl. Oherwydd maes magnetig cryf y sganiwr MRI, ni fyddwch yn gallu mynd â'ch cadair olwyn eich hun i'r ystafell sganio, ond byddwch yn gallu defnyddio un o'n cadeiriau olwyn nad yw’n fagnetig.

Os oes arnoch angen offer cynorthwyol ar gyfer trosglwyddo rhwng y gadair a gwely’r sganiwr, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad fel y gallwn wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer eich ymweliad.

Cwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cael sgan MRI yn y Ganolfan, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd