Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd PhD

Two female students sitting at a table in a library.

Rydym yn cynnig amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil niwrowyddoniaeth, gyda’n hamrywiaeth eang o gyfleusterau delweddu dan yr un to.

Mae hefyd cyfleoedd aml i wneud PhD mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol, sy'n rhoi profiad diwydiannol perthnasol i fyfyrwyr ochr yn ochr â’u gwaith ymchwil academaidd.

Rydym yn denu’r myfyrwyr gorau o amgylch y byd i’n rhaglenni ôl-raddedig, ac yn ystyried ceisiadau gan ystod eang o gefndiroedd academaidd, fel:

  • peirianneg fiofeddygol
  • bioleg
  • cyfrifiadureg
  • peirianneg electronig
  • meddygaeth
  • niwrowyddorau
  • ffiseg
  • seiciatreg
  • seicoleg

Cynigir y rhaglenni gan yr Ysgol Seicoleg.

Yr ydym hefyd yn gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr PhD cylchdro o Ysgolion eraill yn y Brifysgol am gyfnod penodol fel rhan o'n menter i annog cyfnewid syniadau rhyngddisgyblaethol.

Dysgu mwy a gwneud cais

Woman attaching an EEG cap and electrodes to a male study participant's head

Rhaglenni PhD yn yr Ysgol Seicoleg

Darganfod mwy am y rhaglenni PhD a phrosiectau sydd ar gael i astudio yn yr Ysgol Seicoleg.