Ewch i’r prif gynnwys

Gyrru caffael arloesol

Mae ein hymchwil wedi gwella'r broses o gaffael prosiectau seilwaith yn y DU, arferion sefydliadol sefydliadau peirianneg mawr, a’r gwaith o ddrafftio ffurflenni contract.

Logistics and import export theme

Mae gwariant cyhoeddus ar brosiectau seilwaith mawr yn defnyddio symiau enfawr o arian trethdalwyr.

Mae'r rhwydwaith cymhleth o randdeiliaid sy'n ymwneud â phrosiectau o'r fath yn golygu bod problemau nas rhagwelwyd yn gyffredin a gallant arwain at redeg yn hwyr a gorwario.

Nod ymchwil ar effeithiolrwydd cadwyni cyflenwi adeiladu, gan dîm o arbenigwyr Logisteg a Rheoli Gweithrediadau o Ysgol Busnes Caerdydd, oedd mynd i'r afael â'r materion hyn drwy wella:

  • gwaith caffael prosiectau seilwaith yn y DU
  • arferion sefydliadol sefydliadau peirianneg mawr
  • gwaith drafftio ffurflenni contract

Wrth wneud hynny, helpodd y tîm i drawsnewid arferion caffael Highways England, gwella'r berthynas rhwng cyflenwyr yn y grŵp Mace, lleihau costau trafodion ar gyfer Costain, a llunio modelau contractio ar gyfer y Contract Peirianneg Newydd.

Ailfeddwl dulliau caffael a chadwyn gyflenwi yn y maes adeiladu

Rhwng 2004 a 2007, cymhwysodd yr ymchwilwyr lens rheoli gweithrediadau a chadwyn gyflenwi unigryw i brosiect ar logisteg gydweithredol dorfol-addasedig ar gyfer gweithgynhyrchu cynaliadwy.

Gwnaeth hyn herio rhagdybiaethau blaenorol y gellid, yn syml, trosi gwersi o amgylcheddau fel gweithgynhyrchu, modura a manwerthu i amgylcheddau adeiladu cymhleth.

Yn hytrach, dangosodd y tîm fod angen addasu a chyd-destunoli’r dull diwydiannol os yw am weithio i'r sector adeiladu. Gan ategu'r canfyddiadau hyn, datblygodd yr ymchwilwyr ganllawiau ar gyfer dylunio cadwyni cyflenwi sy'n gweithredu mewn sefyllfaoedd 'peiriannu i’r archeb'.

Gan adeiladu ar eu hymchwil cynharach, gweithiodd y tîm ar amrywiaeth o brosiectau cymhwysol rhwng 2013 a 2017 a chreu canllawiau diwydiant hygyrch gyda sefydliadau partner. Roedd y rhain yn rhoi canllawiau penodol ar gontractau priodol ac argymhellion caffael mewn prosiectau mawr.

Dilynodd adolygiad o arferion cyflenwi’r grŵp Mace, lle dadansoddodd y tîm ddwy set ddata fawr o berfformiad cyflenwyr. Gwnaethant gategoreiddio cyflenwyr yn ôl mathau o berthynas a mentrau datblygu cyflenwyr.

Amlinellodd ymchwil a ddeilliodd o hynny arferion yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer partneriaethau strategol gyda mewnwelediadau ar ddatblygu, perfformiad, gwella a buddsoddi. Gyda'i gilydd, rhoddodd eu gwaith gyda phartneriaid yn y diwydiant y dystiolaeth angenrheidiol i'r tîm i ategu a sbarduno gwelliannau ar draws cadwyn gyflenwi seilwaith y DU.

O ganlyniad, cafodd rheoleiddwyr, cleientiaid y Llywodraeth, cyrff contract a chwmnïau'r gyfraith, yn ogystal â chontractwyr peirianneg mawr a'u cadwyni cyflenwi, oll fudd o ymchwil tîm Caerdydd.

Drafftio contractau

Er enghraifft, gwnaeth egwyddorion Caerdydd ar gyfer arferion caffael da helpu i lunio'r fersiwn uwchraddedig o gyfres ffurflenni contract safonol y grŵp Contract Peirianneg Newydd – NEC4.

Mae'r ffurflenni wedi'u mabwysiadu'n eang ar draws y sectorau adeiladu a pheirianneg.

Mae sefydliadau fel Sydney Water yn disgwyl cyflawni arbedion rhaglen blynyddol o 5-10% ar ôl mabwysiadu NEC4 fel ei fodel contractau safonol ar gyfer cyflawni hyd at AU$4biliwn o waith a gwasanaethau adeiladu rhwng 2020 a 2030.

Caffael prosiectau seilwaith yn gyhoeddus

Yn yr un modd, mae'r gyfres o ganllawiau a gynhyrchwyd gan yr ymchwilwyr wedi llywio'r broses o gaffael prosiectau mawr yn well.

Pan ddaeth Highways England (HE, yr Asiantaeth Priffyrdd gynt, National Highways erbyn heddiw) yn gwmni sy'n eiddo i'r Llywodraeth yn 2015, cafodd fudd o gymorth ymchwil wrth gyflwyno ei fodel gweithredu newydd ar gyfer caffael a rheoli’r gadwyn gyflenwi.

Gwnaeth canllawiau'r diwydiant lywio'r meysydd allweddol o newid yn y trawsnewidiad hwn.

Gwnaeth ymchwil Caerdydd hefyd:

  • gynyddu’r defnydd o ffurflenni contract NEC
  • lleihau canlyniadau anghydymffurfiol
  • lleihau dyblygu
  • creu llai o anghydfodau yn y gadwyn gyflenwi
  • llywio Strategaeth Cadwyn Gyflenwi 2015 a Chynllun Caffael 2019 HE, sy’n arwain y sector

Yn 2017, gweithiodd y tîm gyda'r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd (ORR), y corff statudol sy'n goruchwylio a rheoleiddio seilwaith trafnidiaeth y DU, i lywio ei strategaeth buddsoddi mewn ffyrdd.

Cynhaliwyd adolygiad gallu ganddynt, gyda ffigurau amlwg o'r diwydiant, Steve Rowsell a David Orr, yn cynnig dadansoddiad ac argymhellion penodol ar gyfer trefniadau caffael ORR a Highways England.

Gwnaeth adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Highways England, ac a oedd yn cyfeirio at yr adolygiad ORR, werthuso'r diwygiadau a'r newidiadau a wnaed ar draws Highways England dros y cyfnod 2014-2018.

Daeth i'r casgliad y bu "proses gaffael well"; "dull mwy cydweithredol a llai biwrocrataidd o gaffael"; a "bod y berthynas â chyflenwyr wedi gwella", gan arwain at effeithlonrwydd ac arloesedd.

Dylanwadu ar arferion mewn sefydliadau peirianneg mawr a'u cadwyni cyflenwi

Drwy gydweithrediad hirsefydlog â Chanolfan Ragoriaeth Cadwyn Gyflenwi Mace (a elwir yn Ysgol Fusnes Mace), llywiodd tîm Caerdydd ddull Mace o ymdrin â chydberthnasau cadwyn gyflenwi a mentrau datblygu cyflenwyr.

Drwy ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwerth partneriaid strategol hirdymor, newidiodd yr ymchwil arferion y cwmni.

Mae Costain a'i bartneriaid cadwyn gyflenwi hefyd yn elwa o ymchwil Caerdydd ar bartneriaid strategol hirdymor.

Gwnaeth gwaith y tîm ar gadwyni cyflenwi a llywodraethu gynnig y dystiolaeth ddibynadwy sydd ei hangen ar asiantaethau a grwpiau i wella'r gwaith o gaffael prosiectau seilwaith mawr, trawsnewid arferion, a llunio modelau contractio.

Dolenni cysylltiedig

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig