Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifeg a chyllid cynaliadwy – cwrdd â'r Athro Jill Atkins

Dyma'r Athro Jill Atkins yn rhoi esboniad o’i gwaith ymchwil gwerth cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar gyfrifeg a chyllid cynaliadwy ac yn benodol, arferion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG)...

Cyflwynwch eich maes ymchwil i ni

Mae fy ngwaith ymchwil yn dod o dan y pwnc ehangach o lywodraethu ac atebolrwydd. Fy mhrif faes ymchwil yw rôl buddsoddwyr sefydliadol wrth wella arferion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ACLl) o fewn cwmnïau maen nhw’n prynu cyfranddaliadau ynddynt ac sydd yn eu portffolios.

Wrth sôn am fuddsoddwyr sefydliadol, rwy'n cyfeirio at gronfeydd pensiwn, cwmnïau yswiriant a sefydliadau ariannol mawr eraill. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn yr hyn rydyn ni'n ei alw'n 'ymgysylltu a deialog' â’r buddsoddwr. Mewn geiriau eraill, mae gen i ddiddordeb yn y cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng y cwmnïau a'u buddsoddwyr, lle mae'r buddsoddwyr yn gofyn cwestiynau am eu strategaeth ACLl ac yn gallu dylanwadu i ryw raddau ar ymddygiad cwmnïau.

Rwyf hefyd yn ymchwilio i gyfrifeg a chyllid er budd diogelu bioamrywiaeth ac adfer natur, sy'n gynyddol bwysig o ystyried yr heriau amgylcheddol ac ecolegol sy'n wynebu'r byd heddiw. Fel rhan o hyn, datblygais y cysyniad o 'gyfrifo difodiant' sy'n darparu fframwaith i sefydliadau adrodd ar sut maen nhw’n diogelu bioamrywiaeth ac yn atal difodiant rhywogaethau yn eu gweithgareddau busnes.

Beth wnaeth eich denu gyntaf at y maes ymchwil hwn?

Ar ôl cwblhau fy PhD mewn Cyllid ym Mhrifysgol Manceinion yn y 1990au des i Gaerdydd fel darlithydd a dechreuais ymddiddori yn yr hyn oedd yn cael ei adnabod ar y pryd fel 'buddsoddiad moesegol', sef y ffordd mae buddsoddwyr yn integreiddio eu moeseg a'u moesau wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.

Y prif reswm roeddwn i’n awyddus i weithio yn y maes yma oedd fy mod yn teimlo y gallwn i 'wneud gwahaniaeth' o bosibl. Trwy nodi arferion buddsoddi moesegol ac ymchwilio i'r ffordd y gall buddsoddwyr wella ymddygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol cwmnïau, roeddwn i'n meddwl y byddai'n bosibl cynhyrchu gwaith a fyddai'n ddefnyddiol i'r diwydiant buddsoddi, yn ogystal â gallu cyfrannu at y llenyddiaeth academaidd ar gyfrifeg a chyllid yn y maes ymchwil eithaf newydd yma.

Beth mae gwerth cyhoeddus yn ei olygu i chi?

Pan fydda i’n meddwl am 'werth cyhoeddus', rwy’n meddwl am sut gall ein gwaith ymchwil a darlithio wella lles cymdeithasol a'r amgylchedd naturiol. Mae hyn yn golygu gwelliannau yn y canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol i grwpiau eang o randdeiliaid yn y gymdeithas yn ogystal â’r byd naturiol.

Mae fy holl waith ymchwil ac addysgu’n canolbwyntio ar agweddau o werth cyhoeddus ac mae hyn wrth graidd popeth rwy’n ei wneud yn y brifysgol. Yn ddiweddar, ar y cyd gyda chydweithwyr, rwyf wedi sefydlu grŵp ymchwil newydd yn Ysgol Busnes Caerdydd sy'n ystyried materion amgylcheddol ac ecolegol o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Bydd y grŵp yma’n canolbwyntio ar ymchwil a fydd yn ychwanegu at werth cyhoeddus o ran yr hinsawdd, natur a bioamrywiaeth.

Beth sy'n gwneud Ysgol Busnes Caerdydd yn wahanol?

Ar ôl treulio amser yn gweithio mewn sawl prifysgol arall, dychwelais i Gaerdydd yn 2022. Byddwn i'n dweud mai un o nodweddion arbennig ein hysgol busnes ni yw'r ffordd mae pobl yn trin ei gilydd. Mae parch, ystyriaeth a charedigrwydd yn amlwg yn y ffordd mae’r cydweithwyr yn ymwneud â’i gilydd.

Rwyf hefyd yn credu bod Ysgol Busnes Caerdydd wedi bwrw gwreiddiau dyfnach mewn busnesau lleol ac yn y gymuned leol. Rydyn ni’n ffodus o fod wedi'n lleoli ym mhrifddinas Cymru, gyda chyswllt cymharol rhwydd â'r llywodraeth a'r gallu i gyfrannu at bolisi Cymru yn ogystal â'r DU yn gyffredinol.

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn? Gall hyn fod o fewn neu'r tu allan i'r byd academaidd.

Dyw hwn ddim yn gwestiwn hawdd i'w ateb. Gallwn i sôn am lyfrau neu bapurau rwyf wedi bod wrth fy modd yn eu gweld yn cael eu cyhoeddi, neu am ein grŵp ymchwil newydd a gafodd ei sefydlu’n ddiweddar. Y tu allan i'r byd academaidd, rwyf wedi treulio tua 7 mlynedd yn hyfforddi i fod yn ymwelydd bugeiliol lleyg ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru ac o'r diwedd cefais fy nhrwyddedu yn y rôl hon y llynedd. Rwy’n ystyried hyn yn anrhydedd yn hytrach nag yn gyflawniad.

Proffil