Ewch i’r prif gynnwys

Pum ffordd o ddeall pam mae'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau’n amrywio ar draws ardaloedd o fewn Prydain

Mae Suzanna Nesom, myfyrwraig ddoethurol yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhannu prif ganfyddiadau ei hymchwil PhD, sy’n archwilio anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn marchnadoedd llafur ym Mhrydain, ei rhanbarthau a’i hardaloedd, gan ddefnyddio data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion: 2022 (ONS, 2022).

1. Mae amrywiad sylweddol mewn Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau ar draws ardaloedd ym Mhrydain.

Yn syml, y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yw’r gwahaniaeth mewn enillion cyfartalog rhwng menywod a dynion.

Yn 2022, amcangyfrifwyd mai’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau cymedrig fesul awr ar gyfer holl weithwyr Prydain oedd 15.03%, sy’n dangos bod dynion yn ennill 15.03% yn fwy, ar gyfartaledd, na menywod.

Gall y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau fod yn negyddol hefyd, a fyddai’n awgrymu bod menywod yn ennill mwy, ar gyfartaledd, na dynion. Pan fydd yn hafal i sero, mae'n awgrymu bod menywod a dynion yn ennill, ar gyfartaledd, yr un peth.

Mae'r mesur cenedlaethol hwn, fodd bynnag, yn cuddio'r amrywiad sylweddol mewn Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau ar draws rhanbarthau ac ardaloedd ym Mhrydain. Ar lefel ranbarthol, roedd yr un mesur yn amrywio rhwng 10.19% yng Nghymru i 16.88% yn Llundain. Mae hyd yn oed mwy o amrywiad ar y lefel leol, gyda'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn amrywio rhwng -0.40% yn Enfield i 28.92% yn Solihull (gweler Ffigur 1).

2. Mae'r amrywiad hwn wedi'i guddio ar lefelau daearyddol mwy cyfanredol.

Mae’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau cenedlaethol o 15.03 % yn dangos anghydraddoldeb rhyw sylweddol ym marchnad lafur Prydain. Fodd bynnag, fel y dangosir yn Ffigur 1, mae'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau cenedlaethol yn cuddio'r amrywiad ar y lefel ranbarthol, sydd yn ei dro yn cuddio amrywiad ar y lefel leol.

Mae hyn oherwydd bod rhanbarthau daearyddol mwy yn casglu data cyfanredol ar draws ardaloedd lleol amrywiol, a allai arwain at ddarlun gorsyml o Fylchau Cyflog rhwng y Rhywiau. Yn lle hynny, mae dadansoddiad lleol yn rhoi persbectif mwy cynnil a gall ddyfnhau ein dealltwriaeth o sbardunau cyfoes Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau.

Ffigur 1: Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau ar draws ardaloedd rhanbarthol a lleol.

3. Gwahaniaethau rhwng y rhywiau yn nosbarthiad unigolion sy'n gweithio ar draws ardaloedd sy'n esbonio'r rhan fwyaf o'r amrywiad mewn Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau.

Mae'n gyffredin rhannu'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn ddwy ran, sef esboniadwy ac anesboniadwy. Y Bwlch Cyflog esboniadwy rhwng y Rhywiau yw'r rhan sy'n deillio o wahaniaethau yn y nodweddion rhwng menywod a dynion a'r swyddi y maent yn eu gwneud. Mae'r Bwlch Cyflog anesboniadwy rhwng y Rhywiau i'w briodoli i'r driniaeth wahanol o fenywod a dynion sydd â'r un nodweddion (neu debyg iawn).

Mae’r amrywiad mewn Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau a arsylwyd ar draws ardaloedd ym Mhrydain yn cael ei esbonio’n bennaf gan wahaniaethau rhyw o ran nodweddion, megis yr alwedigaeth y maent yn gweithio ynddi, ffafrio gwaith rhan-amser, a deiliadaeth swyddi.

Mae’r ffactorau hyn yn esbonio mwy o’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau mewn ardaloedd lle mae’n fawr, fel Llundain a Solihull, a llai mewn ardaloedd â Bylchau Cyflog bach, neu negyddol, rhwng y Rhywiau, megis Cymru ac Enfield. Yn yr ardaloedd hyn, mae gan fenywod nodweddion sy’n cael eu ffafrio’n well yn y farchnad lafur na dynion. Gwelwyd canfyddiadau tebyg yn yr Almaen (Fuchs, 2021) a Gogledd Iwerddon (Jones a Kaya, 2021).

4. Mae Bylchau Cyflog anesboniadwy rhwng y Rhywiau yn gymharol gyson o ran maint ar draws ardaloedd ym Mhrydain.

Er bod Bylchau Cyflog esboniadwy rhwng y Rhywiau yn cyfrannu at yr amrywiad mewn Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau ar draws ardaloedd ym Mhrydain, mae'r gydran anesboniadwy yn gymharol gyson o ran maint. Weithiau dehonglir y gydran hon fel mesur o wahaniaethu, ond dylid bod yn ofalus wrth wneud hyn oherwydd gall hefyd gynnwys gwahaniaethau rhyw mewn cynhyrchiant neu ddewisiadau, yn ogystal â nodweddion unigolion a gweithleoedd na ellir eu canfod. Er enghraifft, nid yw’r data’n casglu gwybodaeth ynghylch a oes plant gan unigolyn, a allai fod â goblygiadau o ran tâl fesul awr ac a allai gael effeithiau gwahanol ar draws ardaloedd.

Mae’r cysondeb hwn ar draws ardaloedd yn awgrymu nad yw ardaloedd â Bylchau Cyflogau is rhwng y Rhywiau o reidrwydd yn gwneud yn well o ran anghydraddoldeb cyflogau rhwng y rhywiau, gan adlewyrchu casgliadau tebyg a gafwyd yng Ngogledd Iwerddon (Jones a Kaya, 2021).

5. Mae Bylchau Cyflog anesboniadwy rhwng y Rhywiau yn amrywio ar sail nodweddion ardaloedd lleol.

Er gwaethaf y cysondeb cymharol hwn o ran maint, mae Bylchau Cyflog anesboniadwy rhwng y Rhywiau yn amrywio ar sail nodweddion ardaloedd lleol, yn enwedig o ran dosbarthiad gweithwyr ar draws diwydiannau o fewn ardal leol. Yn nodedig, mae ardaloedd gyda chyfran uwch o weithwyr yn y diwydiannau Gweithgynhyrchu ac Adeiladu yn dueddol o fod â Bylchau Cyflog anesboniadwy mwy rhwng y Rhywiau. I'r gwrthwyneb, mae gan ardaloedd gyda chyfran uwch o weithwyr ym meysydd gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg a’r diwydiant gwaith cymdeithasol Fylchau Cyflog anesboniadwy is rhwng y Rhywiau. Mae'r sylw hwn o bosibl yn awgrymu effeithiolrwydd dyletswyddau cydraddoldeb o ran lleihau Bylchau Cyflog anesboniadwy rhwng y Rhywiau.

Ymchwil i’r Dyfodol

Mae Suzanna yn awyddus i ymchwilio’n ddyfnach i benderfynyddion anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y farchnad lafur ar draws gwahanol rannau o’r DU. Yng ngweddill ei PhD, mae’n archwilio a yw cymudo hefyd yn sbardun i’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y DU, ac effaith Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfraddau cyflogaeth rhieni (yn enwedig mamau).

Mae PhD Suzanna yn cael ei oruchwylio gan yr Athro Melanie Jones a Dr Ezgi Kaya a chaiff ei ariannu gan yr ESRC mewn cydweithrediad â Chwarae Teg.

Proffil


*Hawlfraint y Goron yw deunydd yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Trefnwyd bod y deunydd hwn ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy Archif Data’r DU, ac mae wedi’i ddefnyddio gyda chaniatâd. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau ansawdd y deunydd, nid oes gan y crewyr data, adneuwyr neu ddeiliaid hawlfraint gwreiddiol, cyllidwyr y casgliadau data, Archif Data’r DU na Gwasanaeth Data’r DU gyfrifoldeb dros sicrhau cywirdeb na chynwysfawredd y deunydd hwn. Mae'r gwaith hwn yn defnyddio setiau data ymchwil nad ydynt efallai'n atgynhyrchu agregau Ystadegau Gwladol yn hollol.