Ewch i’r prif gynnwys

Straeon codi arian

Cipolwg ar straeon diddorol gan ein cymuned o gyn-fyfyrwyr. Darllenwch am eu llwyddiannau a’u heffaith, wrth geisio helpu dylanwadu ar y byd ac ar fywydau’r bobl o’u cwmpas.

Myfyrio ar Fywyd: Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016)

Myfyrio ar Fywyd: Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016)

16 Ebrill 2021

Mae Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016) yn gyn-fyfyriwr sydd wedi cael tri gradd yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd Shakespeare poblogaidd yn Stratford-upon-Avon. Mae ei angerdd wedi arwain at ddarganfyddiadau rhyfeddol am fyd llenyddiaeth. Mae'n egluro pam y dewisodd ymroi ei hun i'r Bardd, a'r gwersi y mae wedi'u dysgu ar y ffordd.

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

25 Mawrth 2021

Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy'n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae'n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â'i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio'r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.

Hanes un teulu o rymuso menywod

Hanes un teulu o rymuso menywod

12 Mawrth 2021

Ym 1898, cynigiodd Prifysgol Caerdydd gyfle i fenyw ifanc a gafodd effaith enfawr nid yn unig arni hi, ond ar y menywod yn ei theulu a ddilynodd ei holion traed. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn siarad ag wyresau Cassie am bwysigrwydd addysg ar gyfer grymuso menywod.

COVID-19 a chanser: Deall agweddau a thorri rhwystrau

COVID-19 a chanser: Deall agweddau a thorri rhwystrau

9 Mawrth 2021

Anthropolegwr meddygol yw Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy'n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae'n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser.

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Glyn Lloyd

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Glyn Lloyd

26 Chwefror 2021

Mae Glyn Lloyd (PhD 2008, PGDip 2007, MSc 2003, LLB 2002) yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar ôl graddio, gan rannu ei brofiad a'i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.

Dathlu Cymru a chefnogi cerddorion yn wyneb COVID-19

Dathlu Cymru a chefnogi cerddorion yn wyneb COVID-19

25 Chwefror 2021

Mae Iestyn Griffiths (BA 2016, MA 2018) yn disgrifio ei daith o fod yn blentyn oedd wedi'i wirioni â cherddoriaeth i gyd-gyfarwyddo cyngerdd digidol mawr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gan ddathlu a chefnogi cerddorion o Gymru.

Sut gwnaeth gwaith caled fy rhieni fy ysbrydoli i lwyddo – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

Sut gwnaeth gwaith caled fy rhieni fy ysbrydoli i lwyddo – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

18 Chwefror 2021

Mae Jackie Yip (BA 2018) wedi teithio’r byd ac wedi ymdrwytho ym mhob cyfle sydd wedi dod ei ffordd. Gan ddefnyddio’r agwedd at waith a ysbrydolodd ei rhieni ynddi, ynghyd â’r gefnogaeth ar gael gan Brifysgol Caerdydd, llenwodd Jackie ychydig flynyddoedd byr â llond oes o brofiadau.

Dod yn Ffinnaidd a byw yn yr UE yn ystod Brexit  – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Dod yn Ffinnaidd a byw yn yr UE yn ystod Brexit – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

25 Ionawr 2021

Gweithiodd Chloe Wells (BA 2007) i Gyngor Caerdydd ar ôl graddio cyn ymfudo i'r Ffindir ar ddiwedd 2010 lle enillodd ei gradd Meistr Gwyddor Gymdeithasol a'i PhD. Yma, mae Chloe yn siarad am ei hatgofion ym Mhrifysgol Caerdydd, dod yn ddinesydd Prydeinig-Ffinnaidd, a byw yn yr UE yn ystod Brexit.

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

16 Rhagfyr 2020

Mae Scott Bowers (BA 2003, PGDip 2004) yn wirfoddolwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn llysgennad cynfyfyrwyr, yn aelod o Lys Prifysgol Caerdydd ac yn fentor myfyrwyr. Prif swyddog materion corfforaethol i un o brif fusnesau chwaraeon y DU, The Jockey Club, yw ei rôl broffesiynol, ac yn ddiweddar mae wedi dod yn dad. Darllenwch ymlaen i weld pam mae’n wirfoddolwr mor frwdfrydig ac ymroddgar.

Mae interniaethau yn ‘fuddiol i bawb’

Mae interniaethau yn ‘fuddiol i bawb’

9 Rhagfyr 2020

Bu Mohammad Arshad (MEng 2020) ar interniaeth dros yr haf gyda KGAL Consulting Ltd. Cafodd y lleoliad gwaith ei gynnig gan gynfyfyriwr o Gaerdydd. O ganlyniad, cafodd swydd barhaol gyda’r cwmni ac mae wedi cychwyn ar ei yrfa ym maes peirianneg. Cawsom air gydag ag ef i glywed am sut y gwnaeth y mwyaf o'r cyfle a chael swydd mewn maes y mae galw mawr amdano.