Ewch i’r prif gynnwys

Straeon codi arian

Cipolwg ar straeon diddorol gan ein cymuned o gyn-fyfyrwyr. Darllenwch am eu llwyddiannau a’u heffaith, wrth geisio helpu dylanwadu ar y byd ac ar fywydau’r bobl o’u cwmpas.

Fy mhrofiad gyda Womentoring – Jane Cook (BA 2008)

Fy mhrofiad gyda Womentoring – Jane Cook (BA 2008)

5 Rhagfyr 2023

Ym mis Mawrth 2023, cymerodd Jane Cook (BA 2008), ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol, ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd – Menywtora (Womentoring). Isod, mae Jane yn myfyrio ar ei hamser yn fentor ar sawl cyd-fyfyriwr ac yn rhannu ei phrofiadau er mwyn galluogi’r rhai sy’n ystyried cymryd rhan yng nghynllun y flwyddyn nesaf amgyffred ag ef.

Fy mhrofiad gyda Womentoring – Jamie Marie Ellis (MA 2019)

Fy mhrofiad gyda Womentoring – Jamie Marie Ellis (MA 2019)

5 Rhagfyr 2023

Ym mis Mawrth 2023, cymerodd yr awdur a'r cynhyrchydd cynnwys llawrydd Jamie Marie Ellis (MA 2019) ran ym ‘Menywtora’, ein cynllun mentora fflach blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Caerdydd. Cafodd Jamie ei mentora gan ei chyd-gyn-fyfyrwraig Jane Cook (BA 2008), ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol a sylfaenydd Pasbort Gwin Caerdydd. Mae Jamie yn myfyrio ar ei phrofiad fel mentorai ar y rhaglen ac yn rhannu sut mae wedi cael effaith gadarnhaol ar ei gyrfa.

Rhedeg am eich bywyd – sut all rhedeg helpu eich iechyd meddwl – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Rhedeg am eich bywyd – sut all rhedeg helpu eich iechyd meddwl – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

20 Tachwedd 2023

Mae George Watkins (BA 2018) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn gyn-Swyddog Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2018, 2019 a 2022, rhedodd yn rhan o #TeamCardiff, gan godi arian ar gyfer gwaith ymchwil hanfodol Prifysgol Caerdydd ym maes niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Yma, mae George yn rhannu ei daith gyda rhedeg a'i iechyd meddwl ei hun.

A yw’r flwyddyn i ffwrdd hon yn wirioneddol ‘haeddiannol’? Neu ai’r syndrom ymhonni ôl-brifysgol sy’n siarad? — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

A yw’r flwyddyn i ffwrdd hon yn wirioneddol ‘haeddiannol’? Neu ai’r syndrom ymhonni ôl-brifysgol sy’n siarad? — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

28 Medi 2023

Lucy Robertson (BA 2023) sydd newydd raddio eleni, sy’n myfyrio ar ei chyfnod o fod yn fyfyriwr, a'r syniad o gymryd blwyddyn fwlch wedi’r brifysgol yn hytrach na mynd yn syth i fyd gwaith.

Grym mentora gan gyn-fyfyrwyr

Grym mentora gan gyn-fyfyrwyr

7 Medi 2023

Cafodd Tyrone Stewart (MSc 2022) ei fentora’n rhan o'n rhaglen mentora gan gyn-fyfyrwyr yn ystod ei radd meistr. Andrew Jones (BSc 2014) sy’n hyfforddwr busnes oedd ei fentor.

Rydw i eisiau gwneud fy Nan yn falch ohona i – codi arian dros waith ymchwil canser Caerdydd

Rydw i eisiau gwneud fy Nan yn falch ohona i – codi arian dros waith ymchwil canser Caerdydd

15 Awst 2023

Mae'r gyn-fyfyrwraig Katy Thomas (BA 2004) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn dechrau ar ei thrydedd ras ar ddeg ym mis Hydref. Ar ôl colli sawl aelod agos o'i theulu i ganser, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd a fydd yn gwella gwaith i atal canser, ei ddiagnosio a’i drin.

Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd yr Ysgol Cerddoriaeth

Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd yr Ysgol Cerddoriaeth

14 Awst 2023

Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu’r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a'i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.

Beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi Beti George (BA 1960) — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi Beti George (BA 1960) — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

26 Gorffennaf 2023

Astudiodd Beti George (BA 1960) y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n ddarlledwr teledu a radio Cymreig o fri. Yma, mae Beti yn rhannu atgofion ei phlentyndod o’r Eisteddfod, ac yn sôn am yr hyn y mae hi, a’r Gymraeg yn ei olygu iddi.

Cymru i’r Byd — Myfyrwyr y Gyfraith yn Florida yn cwrdd â chynfyfyrwyr Caerdydd

Cymru i’r Byd — Myfyrwyr y Gyfraith yn Florida yn cwrdd â chynfyfyrwyr Caerdydd

17 Gorffennaf 2023

Bu myfyrwyr o Brifysgol Florida yn ymweld â Chaerdydd yn ddiweddar i ddysgu mwy am gyfraith Cymru a Phrydain. Dan arweiniad y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd Dr Matthew Jones (MA 2017), Athro Cyfarwyddo Cynorthwyol ym Mhrifysgol Florida, cafodd y myfyrwyr y cyfle i fynd i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig i gysylltu â chyn-fyfyrwyr Caerdydd sy'n gweithio ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth.

Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023

Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023

13 Gorffennaf 2023

Mae aelodau o gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ar gyfer 2023.