Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Ganghellor

Y Parchedig Gareth Powell
Y Parchedig Gareth Powell

Y Parchedig Gareth J Powell BA (CNAA), MA (Birmingham).

Ymunodd y Parchedig Gareth J Powell â Chyngor a Llys Prifysgol Caerdydd ar 1 Awst 2010. Fe'i penodwyd yn Is-Gadeirydd y Cyngor ym mis Awst 2016 tan fis Gorffennaf 2019. Roedd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu a'r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau. Fe'i penodwyd yn Rhag-ganghellor y Brifysgol o fis Awst 2019 ymlaen.

Mr Powell oedd Ysgrifennydd y Gynhadledd Methodistiaid rhwng 2014 a 2019, un o’r tair rôl uchaf yn Eglwys Fethodistiaid Prydain, ar ôl bod yn Ysgrifennydd Cynorthwyol yn y gorffennol. Mae gan Ysgrifennydd y Gynhadledd brif ran wrth oruchwylio ac arwain yr Eglwys, ac yn benodol wrth ddatblygu a gweithredu gweledigaeth yr Eglwys o undod, cenhadaeth, efengyliaeth ac addoliad a rheolaeth strategol o faterion yr Eglwys.  Mae bellach yn Gymrawd Farmington yng Ngholeg Harris Manchester, Rhydychen.

Astudiodd Mr Powell ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Westminster, Rhydychen. Cafodd hyfforddiant gweinidogol yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham, gan ennill MA mewn Diwinyddiaeth Fugeiliol, cyn treulio amser yn yr Ysgol Astudiaethau Ecwmenaidd Ôl-raddedig, Prifysgol Genefa.

Bu'n Gaplan ym Mhrifysgol Coventry rhwng 1997-99 ac roedd yn Gaplan Methodistaidd ac yn Gydlynydd Caplaniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 1999 a 2008.