Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Ganghellor

Jason Mohammad

Jason Mohammad (PGDip 1997, Hon 2014).

Dechreuodd y cyflwynydd teledu a radio Jason Mohammad yn rôl y Dirprwy Ganghellor ym mis Ionawr 2024.

Jason Mohammad yw un o'r newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus ac un o’r cyflwynwyr mwyaf poblogaidd yn y byd darlledu a digwyddiadau.

Dechreuodd ei yrfa yn BBC Cymru yn ddarllenydd newyddion cyn symud i chwaraeon yn fyw ar y teledu a’r radio. Mae'n fwyaf adnabyddus am weithio ar y sgoriau pêl-droed byw ar BBC One, sef Final Score a'r brif sioe bêl-droed Match of the Day a MOTD2. Mae ei waith arall yn cynnwys y canlynol:

  • Good Morning Sunday ar BBC Radio 2
  • rhai o gynnyrch teledu mwyaf y BBC gan gynnwys y Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad, rowndiau terfynol Cwpan yr FA, rowndiau terfynol Cwpan y Byd a'r Chwe Gwlad
  • cyd-gyflwyno Crimewatch ar BBC One
  • ei sioe ei hun ar BBC Radio Wales

Mae Jason yn siaradwr Cymraeg rhugl, gan ymddangos yn rheolaidd ar S4C a BBC Radio Cymru.

Yn ddiweddar mae Jason wedi creu ei academi cyfryngau ei hun, gan ysbrydoli pobl ifanc sydd eisiau gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn wneuthurwr ffilmiau brwd, gan wneud rhaglenni dogfen teledu am ei ffydd ym Mecca, ei fagwraeth yng Nghaerdydd a phensaernïaeth hanesyddol yn yr Aifft.

Y gwaith y mae fwyaf balch ohono - bod yn dad i dri o blant ac mae’n byw yng Nghaerdydd.