Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Ganghellor

Heather Stevens CBE

Astudiodd Heather Stevens Seicoleg ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd hi’n aelod o dîm rheoli bach a sefydlodd gwmni yswiriant Admiral yng Nghaerdydd ac mae bellach yn briod i Brif Swyddog Gweithredu cyfredol Admiral, David Stevens.

Gan ddefnyddio eu cyfoeth personol, sefydlodd Heather a David Sefydliad Waterloo yn 2007 - ymddiriedolaeth sy’n cynnig grantiau ac yn cefnogi datblygiad plant, datblygiad byd-eang a’r amgylchedd. Ar ben hynny, maent wedi neilltuo cronfa fach ar gyfer prosiectau bach yng Nghymru.

Heather yw Cadeirydd Sefydliad Waterloo ac mae ganddi rôl amlwg dros ben yng ngwaith y Sefydliad, yn enwedig o ran y gronfa ar gyfer datblygiad plant. Mae hi’n ymddiddori’n arbennig mewn ymchwil niwrowyddonol ac wedi meithrin perthnasoedd gydag academyddion unigol, gan gynnwys yr Athro Jeremy Hall, yr Athro Adrian Harwood a’r Athro Stephanie van Goosens.

Cafodd Heather ei phenodi’n CBE yn 2010 a bu’n Uchel Siryf De Morgannwg yn 2015. Mae’n un o Gymrodyr Anrhydeddus (2012) y Brifysgol ac yn Athro Gwadd Anrhydeddus yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Mae Heather hefyd yn un o ymddiriedolwyr Oceana ac yn un o gyn-ymddiriedolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.