Ewch i’r prif gynnwys

Stephen Mann LLB (Anrh) FIoD FPMI FRSA

Stephen Mann - Aelod o'r Cyngor
Stephen Mann - Aelod o'r Cyngor

Graddiodd Stephen gyda Gradd yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd, gan gymhwyso’n gyfreithiwr yn 1990, ac fe aeth ymlaen i weithio'n gyntaf yn y Ddinas cyn iddo symud i Aviva, lle daeth yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y DU.

Yn hwyrach, fe ddaeth yn Gyfarwyddwr y Bwrdd Statudol yng nghangen fusnes y DU yn Aviva, lle’r oedd ganddo gyfrifoldeb gweithredol dros strategaethau, gwasanaethau busnes a mentrau cyfalaf o bwys. Buodd ef hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor ‘With Profits’ yn Aviva, yn ogystal â’i fusnes Buddsoddi Manwerthu yn y DU.

Yna, treuliodd Stephen bron i 15 mlynedd yn gweithio mewn swydd Prif Swyddog Gweithredol yn gyntaf i Grŵp Cydfuddiannol yr Heddlu ac yna i Athrofa a Chyfadran yr Actiwarïaid, sef y corff proffesiynol drwy Siarter Frenhinol ar gyfer actiwarïaid.

Mae Stephen hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol i gwmni Alico UK, sy’n aelod annibynnol o'r Pwyllgor Archwilio a Risgiau yn y Coleg Plismona, ac yn aelod o Dasglu Amrywiaeth Economaidd-Gymdeithasol Dinas Llundain, sy'n ceisio ehangu mynediad i gwmnïau gwasanaethau proffesiynol ac ariannol. Bu’n Ymddiriedolwr sefydlol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Codi Arian a Phrosiectau ar gyfer Ymddiriedolaeth Goffa Goedardd yr Heddlu.

Mae Stephen yn Gymrawd yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn y Sefydliad Rheoli Pensiynau a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau