Ewch i’r prif gynnwys

Jeremy Lewis

Ymunodd Jeremy Lewis â gwasanaeth TG y Brifysgol ym mis Hydref 2012 fel rheolwr rhaglen i arwain y mudo o systemau TG etifeddol i Office 365 ar gyfer yr holl staff a myfyrwyr.  Roedd hyn yn golygu mudo dros 35,000 o fyfyrwyr a staff i'r dechnoleg newydd dros gyfnod o chwe mis.

Rhwng 2014 a 2020, sefydlodd ac arweiniodd Jeremy raglen i wella'r amgylchedd dysgu ffisegol i fyfyrwyr drwy adnewyddu bron i 300 o fannau addysgu.  Roedd hyn yn dwyn ynghyd anghenion academaidd, ystadau a gofynion TG mewn un strategaeth i sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd y ddarpariaeth o fannau addysgu.

Gyda phandemig Covid 2020 yn gorfodi gweithio gartref i'r rhan fwyaf o staff, creodd ac arweiniodd Jeremy y rhaglen Ffyrdd Gwell o Weithio a alluogodd gyflwyno gweithio asio a rhesymoli gofod swyddfa ar draws y rhan fwyaf o'r Gwasanaethau Proffesiynol.  Ar hyn o bryd mae'n arwain y gwaith o ddatblygu'r Model Gweithredu Targed ar gyfer Gwasanaethau Proffesiynol.

Ar ôl graddio ym 1990 o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig, symudodd Jeremy i ddylunio TG a rheoli prosiectau.  Wedi hynny bu'n gweithio mewn pymtheg sefydliad cyn Prifysgol Caerdydd, o fewn sectorau gan gynnwys: cyfleustodau, llywodraeth leol, cyhoeddi a gwasanaethau ariannol.

Mae gan Jeremy ddiddordeb brwd mewn llywodraethu, ac ar hyn o bryd mae’n un o ymddiriedolwyr Mind ym Mro Morgannwg ac mae wedi bod yn aelod o sawl bwrdd gwirfoddol: yn llywodraethwr dwy ysgol ac yn aelod o fwrdd sefydliad ym maes y celfyddydau.

Mae Jeremy wedi bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol ers Rhagfyr 2022.