Ewch i’r prif gynnwys

Beth Button

Beth Button - Aelod o'r Cyngor
Beth Button - Aelod o'r Cyngor

Mae gan Beth brofiad helaeth ym maes polisïau addysg uwch a materion cyhoeddus gan iddi fod â swyddi arwain mewn nifer o gyrff sy'n cynrychioli addysg uwch yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Nawr yn Gyfarwyddwr Materion Allanol Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad (ACU), mae Beth yn arwain ymdrechion eirioli i sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i addysg, hyn gyda llywodraethau, cyllidwyr a rhanddeiliaid ledled y Gymanwlad, ac mae'n gyfrifol am rwydwaith byd-eang yr ACU sydd â 400 o aelod-brifysgolion o fwy na 40 o wledydd yn rhan ohono.

Mae Beth yn falch o fod wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, lle bu iddi astudio Addysg a Chymdeithaseg. Aeth ymlaen i gael ei hethol yn Swyddog Addysg yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd cyn cael ei hethol yn Ddirprwy yn gyntaf ac yna'n Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) yng Nghymru rhwng 2013-2016. Yn ystod y cyfnod hwn, a hithau’n aelod o’r panel cyfrannodd Beth at 'Adolygiad Diamond' Llywodraeth Cymru ar Ariannu Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr.

Cyn ymuno â'r ACU, bu Beth yn gweithio yn University Alliance lle bu’n Bennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus. Ymysg swyddi eraill mae hi wedi ymgymryd â nhw yn y sector addysg uwch mae rheoli ymgyrchoedd yn Universities UK, gweithio ym maes polisïau a materion cyhoeddus yn Prifysgolion Cymru, a chafodd ei hethol i rôl yn Undeb Myfyrwyr Ewrop, lle bu'n arwain eirioli yn y Cenhedloedd Unedig ac UNESCO.

Mae gan Beth hefyd radd Meistr o Brifysgol Bryste, ym maes Polisïau Addysg a Datblygiadau Rhyngwladol.