Ewch i’r prif gynnwys

Dr Catrin Wood

Ymunodd Catrin Wood â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym mis Tachwedd 2019 fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, ac ym mis Mawrth 2022 symudodd i’w rôl bresennol ar y tîm Profiad Myfyrwyr.

Mae gwaith Catrin yn canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr, lles, cyfathrebu ac adborth.  Mae ei thîm yn rhoi mentrau ar waith i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i fanteisio i'r eithaf ar y profiad yn y Brifysgol, rhoi adborth ar eu cwrs a’u Hysgol, a chael mynediad at rwydwaith o gysylltiadau i roi arweiniad iddynt ar wasanaethau cymorth.

Catrin yw Hyrwyddwr y Gymraeg yn COMSC ac mae hi hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan helpu i sicrhau bod gan yr Ysgol gymuned agored a chynhwysol. Mae hi'n rhan o Dîm Hunan-asesu Athena Swan sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gais Gwobr Arian yr Ysgol.

Ar ôl cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Nottingham yn 2020, symudodd Catrin i Fryste a gweithio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr fel Rheolwr Ymchwil yn Ysgol Fusnes Bryste. Ar ôl cael plant, dychwelodd i weithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn ei hysgol gynradd leol, cyn symud yn ôl i weinyddiaeth y Brifysgol yng Nghaerdydd.

Mae Catrin wedi bod yn llywodraethwr mewn dwy ysgol ac wedi bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol ers Awst 2023.