Ewch i’r prif gynnwys

Ein safonau ansawdd

Mae asesiadau ac achrediad allanol yn ffyrdd pwysig o ddilysu ein lle fel Prifysgol sy'n gweithredu i'r safonau ansawdd uchaf posibl.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd addysgu a dysgu o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr a sicrhau bod ein staff yn teimlo ein bod yn eu gwerthfawrogi a'u cefnogi drwy gydol eu gyrfa.

Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA)

UK Quality Assured

Mae'r QAA, corff annibynnol sy'n gyfrifol am fonitro a chynghori ynghylch safonau ac ansawdd mewn addysg uwch yn y DU, wedi cadarnhau ansawdd a safonau ein darpariaeth.

Ymwelodd tîm o adolygwyr QAA â'r Brifysgol yn 2020. Cadarnhaodd y tîm adolygu fod y Brifysgol yn bodloni gofynion Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) Rhan 1 o ran sicrwydd ansawdd mewnol, a gofynion rheoleiddiol gwaelodlin perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Mae hwn yn ddyfarniad cadarnhaol, sy'n golygu bod gennym drefniadau cadarn ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella ansawdd profiadau myfyrwyr.

Darllenwch yr adroddiad Saesneg yn llawn.

Athena SWAN a Phrosiect Juno

Athena Swan bronze award

Mae Siarter Athena SWAN yn gynllun i gydnabod prifysgolion yn y DU sy’n gweithio i hyrwyddo cynrychiolaeth menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg.

Dyfarnwyd gwobr Efydd i ni gyntaf yn 2009, a chafodd y wobr hon ei hadnewyddu yn 2014 a 2018.

Mae pedair o’n hysgolion academaidd (y Biowyddorau; Seicoleg; Deintyddiaeth; Ffiseg a Seryddiaeth) yn ddeiliaid gwobr Arian, ac mae 11 o’n hysgolion academaidd eraill yn ddeiliaid gwobr Efydd.

Cafodd Prosiect Juno ei greu gan y Sefydliad Ffiseg i gydnabod a gwobrwyo ysgolion ffiseg sy’n gallu dangos eu bod wedi cymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywiol yn y maes. Mae ein Hysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi ennill statws Hyrwyddwr gan Brosiect Juno.

Stonewall

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr arian ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2024. Hefyd, roedd hi yn y 109fed safle o blith 246 o gyflogwyr y DU am gynhwysedd pobl LHDTC+.

Cyn hynny, roedd gan Brifysgol Caerdydd wobr aur, roedd ymhlith y 10 cyflogwr mwyaf cynhwysol gorau ym Mhrydain, a hi oedd y Brifysgol yn y safle uchaf ar restr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn 2022. Yn 2023, doedd Prifysgol Caerdydd ddim wedi cyflwyno cais, gan ganolbwyntio yn lle ar adnewyddu strwythurau a phrosesau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Er ein bod ni’n siomedig i beidio â bod ymhlith y 100 cyflogwr gorau ym Mhrydain, dydy’r canlyniad ddim yn annisgwyl. Cafodd ein cais ei gyflwyno gan wybod bod gennyn ni waith i'w wneud i wella ein cynwysoldeb. Wrth gymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall mae asesiad allanol wedi’i gynnal o feysydd sy’n gryfderau i ni, a meysydd lle mae angen i ni wella. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gynllunio a blaenoriaethu ein gwaith fel bod modd i ni roi newid a gwelliannau gwirioneddol ar waith ar gyfer ein haelodau staff LHDTC+. O hyn ymlaen, rydyn ni’n bwriadu cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob dwy flynedd. Bydd hyn yn rhoi amser i ni roi argymhellion a newidiadau ystyrlon ar waith.

Gwobr Adnoddau Dynol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Ymchwil

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod staff ymchwil yn cael profiad cadarnhaol. Rydym yn gwerthuso hyn drwy ddefnyddio fframweithiau cenedlaethol sy'n cefnogi ymchwilwyr.

Mae'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr yn amlinellu saith egwyddor sy'n sail i recriwtio a chydnabyddiaeth, ac yn ategu'r Siarter a Chôd Ewropeaidd ar gyfer Ymchwilwyr, a'r Côd Ymddygiad ar gyfer Recriwtio Ymchwilwyr. Mae ein Cynllun Concordat yn amlinellu'r camau yr ydym yn eu cymryd i ymgorffori'r egwyddorion hyn.

Mae ein hachrediad Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil yn cydnabod ein bod wedi ymgorffori'r egwyddorion hyn. Mae ein hadroddiad trosolwg ar gyfer 2022 a'n Cynllun Gweithredu ar gyfer 2022-25 yn myfyrio ar ein cynnydd ar hyn o bryd a'n hamcanion. Darllenwch yr adroddiad a'r cynllun gweithredu.

ISO 14001

Mae ISO 14001 yn safon amgylchedd a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n nodi fframwaith ar gyfer system rheoli’r amgylched effeithiol.

Mae’r system yn ein galluogi i reoli'r agweddau o’n busnes sydd yn cael effaith ar yr amgylchedd – ac yn ein helpu ni i benderfynu pan cyfreithiau perthnasol mae’n rhaid i ni gydymffurfio â – fel ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau amgylcheddol a gwella ein perfformiad.

ISO 45001

Y hithau’n rhan o’r gyfres asesu iechyd a diogelwch galwedigaethol, mae ISO 45001 yn safon a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n ein helpu i hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel ac iach.

Mae'n amlinellu fframwaith sy’n ein galluogi i nodi a rheoli risgiau i’n hiechyd a’n diogelwch, atal damweiniau rhag digwydd, sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith a gwella ein perfformiad ym meysydd iechyd a diogelwch.

ISO 45003

Safon ryngwladol newydd yw ISO 45003 ar gyfer rheoli peryglon seicogymdeithasol yn y gweithle. Ei phrif nod yw lleihau nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith staff drwy hyrwyddo lles sefydliadol.

Yn 2022, Prifysgol Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i gyrraedd y safon hon.

Cyflogwyr Cyflog Byw

Living Wage Logo

Prifysgol Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu fel cyflogwr Cyflog Byw yn 2014.

Mae cytuno i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn golygu bod pawb sy’n gweithio i Brifysgol Caerdydd, p’un a ydynt yn gyflogeion neu’n gweithio i gontractwyr a chyflenwyr trydydd parti, yn cael y Cyflog Byw a gydnabyddir gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Mae’r Cyflog Byw, a delir yn wirfoddol, yn cael ei gyfrifo yn annibynnol bob blwyddyn ac yn seiliedig ar gostau byw.