Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr ail iaith

Astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd

Croesewir myfyrwyr Cymraeg ail iaith i'r Ysgol a chynigir cymorth ychwanegol yn ystod eu hastudiaethau i ddatblygu eu rhuglder a'u hyder yn y Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd myfyrwyr ar y llwybr ail iaith yn dilyn rhwng 4 a 6 modiwl yn y Gymraeg sy'n canolbwyntio ar:

  • lenyddiaeth
  • diwylliant Cymru
  • datblygu sgiliau cyfathrebu
  • ymchwil

Daw'r myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith at ei gilydd yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf i ddilyn yr un modiwlau.

Ar y llwybr ail iaith darperir y modiwl 'Sgiliau Academaidd Uwch' yn yr ail flwyddyn, sy'n galluogi myfyrwyr i barhau i ddatblygu hyder a rhuglder wrth ddefnyddio'r iaith ar lafar, yn ysgrifenedig, ac mewn cyd-destun academaidd.

Roedd Ysgol y Gymraeg wedi helpu llawer yn ystod fy astudiaethau. I ddweud y gwir, roedd holl staff yr adran yn gymorth mawr i fi, ac i'm cyd-fyfyrwyr ail iaith. Cynhaliwyd dosbarthau sgwrsio a sesiynau unigol er mwyn cryfhau sgiliau iaith a gwella ein hyder mewn paratoad tuag at fywyd tu allan i'r stafell ddosbarth.

Callum Davies – Cyswllt Chwaraewyr Cardiff City FC