Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Sabothol Cenedlaethol

Mae’r Cynllun Sabothol yn cynnig cyrsiau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg, boed yn athrawon, darlithwyr neu’n gynorthwywyr dosbarth.

Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Bwriad y cyrsiau felly yw datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr addysg. Yn ogystal â hyn, mae’r cyrsiau yn darparu hyfforddiant addysgeg iaith fydd yn galluogi ymarferwyr i addysgu’r Gymraeg yn effeithiol a throsglwyddo’r iaith i’w disgyblion.

Mae cyrsiau ar gael ar gyfer gwahanol lefelau ieithyddol felly os ydy’r Gymraeg yn iaith sy’n newydd i chi neu os oes gennych chi ychydig o brofiad ohoni, mi fydd yna gwrs sy’n addas i chi.

Darperir cyrsiau'r Cynllun Sabothol Cenedlaethol gan Ysgol y Gymraeg dan nawdd Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth De Cymru a De-ddwyrain Cymru. Golyga hyn fod y cyrsiau yn rhad ac am ddim gyda Llywodraeth Cymru yn darparu grant er mwyn talu costau cyflenwi yn ogystal â chostau teithio.

Mae’r cyrsiau yn medru amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly i ddarganfod pa gyrsiau sy’n rhedeg, neu os hoffech gymorth ar wybod pa gwrs sy’n addas i chi, cysylltwch â ni.

Cysylltu

Cynllun Sabothol