Ewch i’r prif gynnwys

Arsyllfa Nentydd Llyn Brianne, Tywi, Cymru

Mae Arsyllfa Nentydd Llyn Brianne yn Ne Orllewin Cymru wedi bod yn casglu data ers dros 30 mlynedd ar 14 o nentydd sy'n llifo i fyny'r afon (upstream) a'u planhigion a'u hanifeiliaid.

Mae hyn wedi rhoi tystiolaeth y mae angen mawr amdani am y ffordd orau i reoli nentydd tir uchel, ynghyd â'r glannau a'r tirluniau cyfagos, i ddiogelu'r adnoddau holl-bwysig y maen nhw'n eu cynnig. Bydd cyllid yn ddiweddar gan Sefydliad Esmée Fairbairn yn cadw'r arsyllfa i redeg ac yn lledaenu ei negeseuon yn ehangach.

Ychydig yn unig o ecosystemau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau pwysicach na nentydd ac afonydd, ond maen nhw'n cael eu tanbrisio. Mae llawer yn dal i ymadfer ar ôl problemau yn y gorffennol megis glaw asid, llygredd a draenio'r tir, ac mae'r anawsterau cyfredol yn cynnwys tynnu dŵr, gwaredu gwastraff, cynhyrchu trydan dŵr, gwrteithiau'n rhedeg oddi ar y tir, ac agweddau eraill ar newid byd-eang. I sicrhau bod afonydd a nentydd yn gallu cyflenwi gwasanaethau hollbwysig heb wneud niwed i'w bywyd gwyllt, mae angen gwell dealltwriaeth o sut mae gwasanaethau ecosystemau'r afonydd yn cael eu creu, a sut y gallan nhw gael eu diogelu.

Mae Arsyllfa Nentydd Llyn Brianne, a'r stori unigryw y mae'n ei hadrodd am sut i ateb yr heriau sy'n effeithio ar nentydd ac afonydd Prydain, nid yn unig wedi'i sicrhau, ond bydd yn cael ei chyfnerthu a'i gwella dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd yn parhau felly i roi data ac arweiniad i'r ymchwilwyr, y rheolwyr tir, yr elusennau amgylcheddol, y sefydliadau statudol a'r cymunedau sy'n ceisio defnyddio asedau naturiol y Deyrnas Unedig mewn ffyrdd a fydd yn helpu i gefnogi dyfodol cynaliadwy. Cyn hir bydd gwefan ddynodedig yn cynnig porth data i gyrchu ymchwil yr Arsyllfa.