Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, dathlu amrywiaeth a chynnal amgylchedd cynhwysol i bob aelod o gymuned yr ysgol.

Rydym yn cyflawni hyn drwy feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer myfyrwyr a staff beth bynnag yw eu rhyw, anabledd, tarddiad ethnig, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, oedran, neu genedligrwydd, a thrwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau.

Rydym yn gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr a staff o nifer o wledydd a chefndiroedd ethnig. Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn adlewyrchu’r amrywiaeth hwn. Mae hil, crefydd, anabledd, rhyw a rhywioldeb oll yn elfennau craidd o’r hyn a addysgwn ac yn feysydd ymchwil gweithredol ar gyfer sawl aelod o’n staff.

Llywodraethu

Mae gan yr Ysgol Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n ystyried materion cydraddoldeb ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig sy'n ymwneud â staff, myfyrwyr a chwricwlwm. Mae gan y Pwyllgor hefyd nifer o weithgorau gweithredol:

Cydraddoldeb hiliol

Mae gan yr ysgol Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gweithredol. Mae gweithgareddau'r grŵp wedi cynnwys hyfforddi staff, gwahodd siaradwyr allanol ysbrydoledig, trefnu arddangosfa ffotograffiaeth ac archwilio'r cwricwlwm.

Cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhywioldeb

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yn benodol, tangynrychiolaeth menywod yn y gwyddorau. Ers hynny, mae wedi ymestyn i gwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol hefyd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ddeiliad gwobr Efydd sefydliadol ers 2009, ac mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi bod yn ddeiliad gwobr Efydd adrannol ers 2014. Cafodd ei hadnewyddu yn 2023.

Mae gan yr ysgol Is-bwyllgor gweithgar ym maes Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a Rhywioldeb. Mae’r Is-bwyllgor yn galluogi’r ysgol i gyflawni ei chyfrifoldebau ym maes Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a Rhywioldeb, gan wneud argymhellion ac yn arwain ar ddatblygu, gweithredu a monitro Cynllun yr Ysgol ynghylch Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau. Mae'r Is-bwyllgor yn adrodd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Cydraddoldeb anabledd

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb i’r rhai sydd ag anableddau corfforol, cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu sy’n niwrowahanol. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr, staff a phawb sy'n ymwneud ag ymchwil a gweithgareddau eraill yr ysgol. Mae gennym Is-bwyllgor Cydraddoldeb Anabledd sy'n gweithio i sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei chyfrifoldebau ym maes cydraddoldeb anabledd ac atal ablaeth. Mae myfyrwyr anabl yn yr ysgol, fel pob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gallu cael cymorth drwy’r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr.

Grŵp Pencampwyr Cymru

Mae'r grŵp hwn yn trefnu addysgu cyfrwng Cymraeg, yn trefnu tiwtoriaid a goruchwylwyr Cymraeg ar gyfer myfyrwyr, ac yn hyrwyddo datblygiad dwyieithog yr Ysgol trwy gynulliadau cymdeithasol a chyfarfodydd staff a myfyrwyr Cymraeg.

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yw'r Athro Sally Holland. Mae'n aelod o'r Uwch Dîm Rheoli ac yn cadeirio Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol.

Yr Athro Sally Holland

Yr Athro Sally Holland

Professor

Siarad Cymraeg
Email
hollands1@caerdydd.ac.uk